Rydym yn cyflwyno hyfforddiant a gweithdai ledled Cymru i’n holl grwpiau cofrestredig yn ogystal â rhanddeiliaid megis llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi a chonsortia addysg rhanbarthol. Rydym yn gwneud hyn yn bersonol neu’n rhithwir.
Mae ein harbenigedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu sy’n gysylltiedig â’n gwaith, megis:
- Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
- defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
- cyfrifoldebau a moeseg proffesiynol
- Pasbort Dysgu Proffesiynol
Gallwn hefyd gymryd rhan mewn cyfeirnodau mewn cynadleddau a sesiynau panel, a mynychu marchnadle eich digwyddiad.
Os hoffech i ni fod yn rhan o, neu gyflwyno digwyddiad ar gyfer eich sefydliad, cwblewch y ffurflen ganlynol.