CGA / EWC

About us banner
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024
Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024

 

Lawrlwytho'r Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 (PDF)

1. Ynghylch CGA

Amdanom ni

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Fe’i sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac mae’n ofyniad cyfreithiol i ymarferwyr ar draws un ar ddeg o wahanol grwpiau yn y gweithlu addysg, o’r cyfnod sylfaen i addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith, gofrestru gyda CGA. Ein Cofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru yw’r gofrestr gyhoeddus fwyaf o unrhyw broffesiwn yng Nghymru, a’r gofrestr fwyaf pellgyrhaeddol o weithwyr addysg proffesiynol yn y byd, gyda dros 90,000 o ymarferwyr wedi’u cofrestru

Ein nodau

  • Cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.
  • Cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon ac eraill sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru.
  • Diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni/gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal hyder a ffydd y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Ein swyddogaethau

  • Sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg.
  • Cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.
  • Ymchwilio i honiadau a allai godi amheuon ynghylch priodoldeb ymarferydd cofrestredig i ymarfer, a’u clywed.
  • Achredu a monitro rhaglenni AGA athrawon ysgol.
  • Rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill.
  • Monitro’r broses sefydlu a chlywed apeliadau sefydlu.
  • Hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg.
  • Ymgymryd â gwaith penodol ar gais Llywodraeth Cymru.

Prev Next »