- Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymrwymo i ddarparu’r safonau gwasanaeth uchaf i’w gofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Mae’r ddogfen hon yn gosod allan y safonau uchel o wasanaeth y gall defnyddwyr gwasanaeth eu disgwyl gennym ni.
- Ein bwriad yw gwneud ein gwaith mewn modd agored a thryloyw, ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan roi ystyriaeth i’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol.
- Mae'r math a fformat o wybodaeth ynglŷn â ni sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau wedi eu nodi ar dudalen preifatrwydd y wefan o dan adrannau rhyddid gwybodaeth a’r cynllun cyhoeddi.
- Caiff unrhyw geisiadau am wybodaeth gan y cyhoedd eu trin yn unol â gofynion statudol a chanllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Caiff y mwyafrif geisiadau am wybodaeth eu hymdrin â nhw trwy’r cwrs busnes arferol sydd wedi’i osod allan yn y ddogfen hon. Caiff geisiadau gan wrthrychau data am eu data personol eu hunain eu hymdrin â nhw fel y mae adran cais mynediad at ddata ein tudalen we preifatrwydd gwybodaeth yn ei amlinellu.
- Ein hamcanion:
- cyfathrebu'n agored ac yn effeithiol mewn iaith eglur
- darparu gwybodaeth lawn am ein gwasanaethau
- ymdrin â phawb mewn modd teg a chyfartal, gan barchu preifatrwydd, urddas a chyfrinachedd
- bod yn barod i helpu ac yn gwrtais, gan roi sylw i'r rheiny sydd ag anghenion arbennig
- cywiro pethau mewn modd cyflym ac effeithiol, gan ddysgu o unrhyw gwynion yr ydym yn eu derbyn
- ceisio gwella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn barhaus
- monitro ac adolygu ein perfformiad
- adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd
Darpariaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau ac ymateb
- Rydym yn darparu gwasanaeth dwyieithog, sy’n cynnwys staff sy'n gallu ymateb i unigolion yn effeithlon yn Gymraeg neu Saesneg, fel y bo gofyn.
- Gallwch ein ffonio yn ystod ein oriau gwaith ar 029 2046 0099. Ein oriau agor yw 09:00 nes 17:00 ddydd Llun hyd ddydd Iau, a 09:00 nes 16:00 ar ddyddiau Gwener.
- Gallwch anfon e-bost atom ar
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. , neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod. Mae cyfarfodydd yn ein swyddfeydd trwy apwyntiad yn unig – ffoniwch neu e-bostiwch i gael rhagor o wybodaeth.
Llawr 9, Eastgate House
35-43 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF240 AB - Rydym yn cydnabod bod pob ymholiad yn unigryw a bydd ein hymatebion yn adlewyrchu hyn. Ein bwriad yw:
- ateb galwadau ffôn yn ddwyieithog o fewn wyth caniad neu 20 eiliad, ac yna parhau yn Gymraeg neu'r Saesneg yn ôl y gofyn
- cydnabod derbyn holl ymholiadau a cheisiadau ysgrifenedig am gyhoeddiadau, o fewn pum niwrnod ar ôl derbyn yr ohebiaeth, yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl y gofyn
- ymateb i geisiadau am wybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd a’n cynllun cyhoeddi ar-lein
- Rydym yn dal gwybodaeth bersonol am gofrestreion yn rhan o'i swyddogaethau. Bydd yn cynnal gwiriadau hunaniaeth gyda galwyr i ddiogelu gwybodaeth a chyfrinachedd.
Y Gymraeg
- Rydym yn anelu at gynnig gwasanaeth dwyieithog llawn a chydymffurfio â’i swyddogaethau o ran darparu gwasanaethau o dan safonau’r iaith Gymraeg.
- Mae darpariaeth ac ymateb i’r defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi’u gosod allan yn y polisi hwn yn berthnasol i’r ymholiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Ni chaiff unrhyw berson sydd am dderbyn gwasanaeth Cymraeg ei drin yn llai ffafriol na pherson sydd am dderbyn gwasanaeth Saesneg.
Cwynion ynglŷn â safonau gwasanaeth
- Rydym yn ymdrechu i ddarparu defnyddwyr gwasanaethau â gwasanaeth cyson uchel a chymryd cwynion o ddifri. Ymdrechwn i ddarparu proses hygyrch a thryloyw ar gyfer ymchwilio i gwynion am y gwasanaeth a ddarparwn a’n nod yw ymateb i gwynion cyn gynted â phosibl.
- Bydd y broses ganlynol yn berthnasol:
- Yn y lle cyntaf, dylai’r gŵyn gael ei chodi gyda'r person sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai'r gŵyn gael ei datrys yn y cyfnod hwn. Bydd ein cyflogeion yn rhoi gwybod am unrhyw gwyn sy’n eu cyrraedd am safon y gwasanaeth p’un a yw’n cael ei datrys yn y cyfnod hwn ai peidio (gweler paragraff 18)
- Os nad yw'r achwynydd yn fodlon ar yr ymateb, yna caiff y gŵyn ei chyfeirio at reolwr y tîm dan sylw, a fydd yn ystyried y gŵyn ac yn ymateb yn unol â hynny
- Os yw’r mater heb ei ddatrys o hyd er bodlonrwydd yr achwynydd, caiff y gŵyn ei chyfeirio at y cyfarwyddwr perthnasol er mwyn iddynt ei ystyried ymhellach
- Os nad yw’r mater wedi’i ddatrys ar ôl dilyn y tri cham blaenorol, caiff y gŵyn ei chyfeirio at y Prif Weithredwr i’w hystyried am y tro olaf
- Pan dderbynnir cwyn ysgrifenedig, rydym yn bwriadu:
- cydnabod derbyn y gŵyn gychwynnol o fewn pum niwrnod gwaith
- gwneud ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith, oni bai y rhagwelir y bydd yn cymryd amser hirach i ddatrys y mater; os felly, anfonir ateb interim
- gwneud ymateb terfynol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y gŵyn gychwynnol
- Os yw eich cwyn yn ymwneud â’n gwasanaeth iaith Gymraeg, byddem yn eich annog i gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch eich pryder yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ym mharagraff 22. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym wedi delio â’ch pryder, neu os ydych yn teimlo nad ydym wedi cymryd camau priodol i ddatrys y sefyllfa, dylech gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno cwyn.
Priodoldeb i ymarfer
- Os hoffech wneud cwyn ynghylch priodoldeb i ymarfer, cyfeiriwch at yr amserlenni a’r camau sydd yn Priodoldeb i ymarfer: canllaw i wneud cwynion am ein gwasanaeth. Mae’n disgrifio pryd a sut gallwch chi gwyno ynghylch ein prosesau priodoldeb i ymarfer. Mae ein gweithdrefnau priodoldeb i ymarfer yn destun Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu neu’r Rheolau Cofrestru, fydd yn cymryd blaenoriaeth dros y weithdrefn cwynion a nodir uchod ym mharagraffau 14-16.
Monitro a chofnodi
- Dylai cyflogeion adrodd unrhyw gwynion a dderbynnir ganddynt ynglŷn â safonau gwasanaeth, gan gynnwys cwynion sy'n ymwneud â chydymffurfio at Safonau'r iaith Gymraeg i’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol. Cofnodir pob cwyn at ddibenion monitro ac adrodd. Yna, cynhyrchir crynodeb o unrhyw gwynion a dderbynnir, a chaiff ei adrodd i’r Uwch Dîm Rheoli bob mis.
Hyfforddiant
- Rydym yn sicrhau bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i'w weithwyr er mwyn eu cefnogi i ddelio â chwynion yn effeithiol. Darperir hyfforddiant ychwanegol os bod angen am hyfforddiant yn cael ei nodi wrth drin cwyn neu drwy fonitro a chofnodi cwynion yn systematig.
Sut i gysylltu â ni
- Rydym wedi ymrwymo i gynnal safon uchel o wasanaeth, a chroesewir adborth ac awgrymiadau o ddefnyddwyr ei gwasanaethau gan fod hyn yn ein galluogi i wella’i safonau o ran gwasanaeth.
- Gellir cysylltu â ni drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol (cyfeiriwch at baragraff 7 am oriau agor y swyddfa):
Ffôn: 029 2046 0099
E-bost:
