CGA / EWC

About us banner
Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth
Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth

Darllenwch papur  'Arwain Ymarfer Myfyriol - Adolygu'r Dystiolaeth' (PDF)
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol. This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Crynodeb Gweithredol

Cyflwyniad

Mae’r adolygiad hwn, a gynhaliwyd gan Carol Campbell a Maeva Ceau o’r Ontario Institute for Studies in Education, Prifysgol Toronto, yn archwilio ymarfer myfyriol mewn addysg. Mae’n archwilio beth yw ymarfer myfyriol, ei effaith ar ddeilliannau addysgol, a sut gall arweinwyr addysgol ei gefnogi. Hefyd, mae’r adolygiad yn amlygu polisïau, fframweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n meithrin ymarfer myfyriol, gyda ffocws ar system addysg Cymru.

Dulliau

Cynhaliwyd yr adolygiad llenyddiaeth fesul tri cham:

  1. chwilio llenyddiaeth: nodi’r darnau ar ymarfer myfyriol o’r degawd diwethaf sy’n cael eu dyfynnu amlaf
  2. chwilio targedig: canolbwyntio ar ymarfer myfyriol mewn addysg trwy gyfuniadau o allweddeiriau penodol
  3. chwilio llenyddiaeth lwyd: dod o hyd i ddogfennau polisi a phroffesiynol perthnasol

Beth yw Ymarfer Myfyriol?

Mae ymarfer myfyriol yn cynnwys meddwl yn systematig am ein profiadau i lywio camau gweithredu yn y dyfodol. Mae John Dewey a Donald Schön yn unigolion canolog yn ei ddatblygiad, gan bwysleisio pwysigrwydd myfyrio yn ymarferol a myfyrio ar weithredu ar gyfer twf proffesiynol.

Damcaniaethau a dulliau

Mae cysyniadau allweddol ymarfer myfyriol yn cynnwys:

  • dysgu dolen ddwbl: herio a newid credoau a rhagdybiaethau sylfaenol
  • Damcaniaeth Dysgu drwy Brofiad: dysgu trwy gylch o brofi, myfyrio, meddwl a gweithredu

Mae ymarfer myfyriol yn cynnwys dimensiynau gwybyddol, emosiynol a moesegol, gan feithrin craffu beirniadol ar normau sefydledig.

Arweinyddiaeth ac ymarfer myfyriol

Dylai arweinwyr ym maes addysg gymryd rhan mewn ymarfer myfyriol er mwyn ei fodelu i’w staff a chefnogi eu timau. Mae ymarfer myfyriol effeithiol yn cynnwys cyfleoedd strwythuredig i fyfyrio a goresgyn rhwystrau fel cyfyngiadau amser a rhagfarn gwybyddol. Mae myfyrio cydweithredol yn gwella creadigrwydd a datrys problemau.

Effaith ar addysg

Mae ymarfer myfyriol yn arwain at well strategaethau addysgu, gwell penderfyniadau, a gwell lles. Mae’n cefnogi dysgu proffesiynol parhaus ac mae’n meithrin diwylliant o wella mewn lleoliadau addysg.

Cefnogaeth ar gyfer ymarfer myfyriol

Mae polisïau, fframweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol yn hanfodol ar gyfer cefnogi ymarfer myfyriol. Mae’r elfennau hyn yn creu amgylchedd lle gall ymarfer myfyriol ffynnu, gan arwain at well deilliannau addysgol.

Cefnogaeth ar gyfer ymarfer myfyriol

Mae’r ddogfen yn trafod pwysigrwydd polisïau, fframweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n cefnogi ymarfer myfyriol. Mae’r elfennau hyn yn hanfodol ar gyfer creu amgylchedd lle gall ymarfer myfyriol ffynnu.

Casgliad

Mae ymarfer myfyriol yn hanfodol ar gyfer datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth effeithiol mewn addysg. Trwy fyfyrio’n feirniadol ar brofiadau, gall addysgwyr ac arweinwyr wella’u harferion yn barhaus a gwella deilliannau addysgol.