CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: dysgu seiliedig ar waith
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: dysgu seiliedig ar waith

Mae rheoliadau’n datgan y dylai darparwyr dysgu seiliedig ar waith sicrhau bod pob ymarferydd dysgu seiliedig ar waith sy’n darparu addysg neu hyfforddiant mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith, fod wedi cofrestru gyda CGA cyn dechrau gweithio.

Diffinnir dysgu seiliedig ar waith fel ‘addysg neu hyfforddiant a ddarperir i bobl 16 oed neu uwch (p’un a ydynt yn cael eu darparu i bobl o dan 16 oed ai peidio), er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i grefft, galwedigaeth neu gyflogwr penodol’.

Diffinnir ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel unigolyn sy’n darparu, neu sy’n dymuno darparu, gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

Diffinnir gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith fel a ganlyn:

  • cydlynu a darparu dysgu seiliedig ar waith
  • asesu gwybodaeth a sgiliau dysgwyr

Enghreifftiau o rolau y mae angen cofrestru ar eu cyfer

Nid yw’r rhestr yn derfynol. Gan ddefnyddio’r diffiniadau a ddarparwyd, mae angen i gyflogwyr ystyried y rôl wirioneddol y mae unigolyn yn ymgymryd â hi ac nid dim ond teitl ei swydd.

Rolau y mae angen cofrestru ar eu cyfer:

  • aseswyr
  • hyfforddwyr
  • darparwyr dysgu
  • hyfforddwyr
  • mentoriaid
  • y rhai sy’n cydlynu’r gwaith o ddarparu dysgu seiliedig ar waith:
    • rolau rheoli/arwain
    • staff sicrhau ansawdd
  • rhai unigolion hunangyflogedig sy’n cael eu darparu gan sefydliad allanol (gweler isod)

Mae’r rolau nad oes angen cofrestru ar eu cyfer yn cynnwys:

  • staff gweinyddol
    • gweinyddwyr mewn swyddfa
    • cymorth systemau TG
    • adnoddau dynol
    • cyllid
  • staff gwerthu a marchnata
  • gwirfoddolwyr di-dâl

Mae’n rhaid i ymarferydd fod wedi cofrestru yng nghategori neu gategorïau’r rôl/rolau y mae’n ymgymryd â nhw. Er enghraifft, os yw’r gweithiwr yn gweithio ar sail rhan-amser fel ymarferydd dysgu yn y gwaith ac yn rhan-amser fel athro AB, rhaid i’r gweithiwr gofrestru ym mhob categori perthnasol. Fodd bynnag, dim ond un ffi gofrestru y byddai’n ei thalu.