CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: gwaith ieuenctid
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: gwaith ieuenctid

Mae’r rheoliadau’n datgan bod unrhyw weithiwr ieuenctid sy’n dal un o’r cymwysterau cydnabyddedig , neu weithiwr cymorth ieuenctid sy’n dal un o’r cymwysterau cydnabyddedig , neu sy’n gweithio tuag at un o’r cymwysterau,  yn gorfod cofrestru gyda CGA cyn dechrau gweithio ar gyfer neu ar ran corff perthnasol.

Ystyr corff perthnasol yw:

  1. awdurdod lleol yng Nghymru
  2. corff llywodraethu ysgol
  3. sefydliad addysg bellach yng Nghymru
  4. corff gwirfoddol, i’r graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid sy’n cael eu darparu ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru

Mae gweithiwr ieuenctid yn unigolyn sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sy’n meddu ar o leiaf un o’r cymwysterau sy’n cael eu pennu fel gweithiwr ieuenctid.

Mae Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yn unigolyn sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid, ac sy’n meddu ar o leiaf un o’r cymwysterau sy’n cael eu pennu fel gweithiwr cymorth ieuenctid. 

Diffinnir gwasanaethau datblygu ieuenctid fel gwasanaethau:

  1. sy’n cael eu darparu’n bennaf i unigolion nad ydynt yn iau nag 11 ac nad ydynt yn hŷn na 25 oed, ac
  2. sy’n hyrwyddo:
    1. datblygiad sgiliau neu wybodaeth unigolion o’r fath
    2. datblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol unigolion o’r fath

Mae’n rhaid i ymarferwyr sydd eisiau cofrestru gyda CGA fel gweithiwr ieuenctid cymwysedig, neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig, ddarparu tystiolaeth bod ganddynt un o’r cymwysterau gorfodol pan fyddant yn gwneud cais i gofrestru.

Gall ymarferwyr sy’n gweithio tuag at un o’r cymwysterau sydd wedi’u rhestru wneud cais am gofrestru dros dro gyda CGA tra byddant yn gweithio tuag at eu cymhwyster.

Sylwch fod Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r rheoliadau ym mis Mai 2023, a wnaeth ddileu cymwysterau cymorth ieuenctid lefel 2 o’r rhestr o gymwysterau cymwys. Yn sgil hynny, nid yw unigolion sydd wedi cymhwyso i lefel 2 yn gymwys mwyach i gofrestru gyda CGA. Bydd angen i’r unigolion sydd wedi cofrestru’n hanesyddol gyda CGA gyda chymhwyster lefel 2 gyflawni’r cymhwyster lefel 3 cyn Mai 2025; bydd y rhai nad ydynt yn cyflawni lefel 3 yn cael eu dileu o’r gofrestr ym mis Mai 2025.

Gweithwyr ieuenctid cymwysedig, neu weithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig nad ydynt wedi cofrestru gyda CGA

Os bydd cyflogwr yn cyflogi gweithiwr ieuenctid cymwysedig neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig sydd heb gofrestru i ymgymryd â’r gwasanaethau a ddiffinnir, maent yn torri’r gyfraith.

Mae’n bosibl y bydd cyflogwr yn canfod nad yw gweithiwr neu ddarpar weithiwr wedi cofrestru.

Os bydd y gweithiwr ieuenctid neu’r gweithiwr cymorth ieuenctid yn gymwys i gofrestru ond ndd ydynt wedi cofrestru, ni allant ddechrau gweithio hyd nes byddant wedi cofrestru. Mewn achosion o’r fath, dylai’r cyflogwr/darpar gyflogwr hysbysu’r ymgeisydd y dylent wneud cais i gofrestru gyda CGA.

Os na all gweithiwr ieuenctid cymwysedig neu weithiwr cymorth ieuenctid cymwysedig gael eu cofrestru oherwydd cyfyngiadau, ni ddylent gael eu gyflogi.