Athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
Os bydd athro mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yn ymgymryd ag un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, rhaid eu bod wedi cofrestru yng nghategori’r athro sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol:
- cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant i ddysgwyr
- cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr (gan gynnwys trwy ddysgu o bell neu dechnegau â chymorth cyfrifiadur)
- asesu neu adrodd ar ddatblygiad a chynnydd disgyblion
- ymgymryd ag uwch rôl arwain yn rheoli addysgu a dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
Mae’r gofynion hyn yn berthnasol hefyd i weithwyr eraill a allai ymgymryd ag un o’r gweithgareddau uchod o fewn y sefydliad, fel:
- athrawon cyflenwi
- athrawon ysgol peripatetig
- staff sy’n cael eu talu fesul awr
- gweithwyr ymweliadol fel tiwtoriaid cerddoriaeth, hyfforddwyr chwaraeon sy’n darparu gwersi fel rhan o ddarpariaeth y cwricwlwm. (Nid yw hyn yn berthnasol os ydynt yn sesiynau gwirfoddol ar ôl ysgol).
Gweithwyr cymorth dysgu sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol
Os bydd gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yn cynorthwyo â darparu un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, mae’n rhaid iddynt gofrestru yng nghategori’r gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol:
- cynllunio a pharatoi addysg a hyfforddiant i ddysgwyr;
- cyflwyno addysg a hyfforddiant i ddysgwyr (gan gynnwys trwy ddysgu o bell neu dechnegau â chymorth cyfrifiadur);
- asesu datblygiad a chynnydd dysgwyr;
- adrodd ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr;
Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i weithwyr eraill hefyd a allai ymgymryd â’r rôl gymorth, fel gweithiwyr cymorth dysgu sy’n cyflenwi.
Nid yw cofrestru’n berthnasol i staff sy’n ymgymryd â rôl weinyddol yn unig yn y sefydliad ôl-16 arbennig, neu lle nad ydynt yn rhyngweithio â disgyblion yn rhinwedd rôl addysgu neu ddysgu.