CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ysgolion
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ysgolion

Dim ond dau gategori cofrestru sy’n berthnasol i gofrestreion sy’n gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru:

  • athro ysgol
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

Athrawon ysgol

Mae cofrestru yng nghategori’r athro ysgol yn gofyn bod gan ymgeiswyr Statws Athro Cymwysedig (SAC). Dylai ymgeiswyr sydd heb SAC ond sy’n gweithio mewn ysgol a gynhelir gofrestru fel gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol.

Mae’n rhaid i’r canlynol gofrestru yng nghategori’r athro ysgol, ond nid rhestr orffenedig yw hon:

  • athrawon ysgol amser llawn, rhan-amser ac athrawon cyflenwi sy’n dal SAC
  • athrawon ysgol peripatetig
  • athrawon ysgol ymgynghorol sy’n athrawon ysgol cymwysedig ac sy’n treulio cyfran o’u hamser mewn rôl addysgu, gan gynnwys cyswllt uniongyrchol â disgyblion, heb oruchwyliaeth
  • tiwtoriaid cartref, a gyflogir gan awdurdod lleol i addysgu plant

Gan fod gweithio traws-ffiniol rhwng Cymru a Lloegr, dylai cyflogwyr nodi nad yw ymarferwyr y dyfarnwyd Athro Cymwysedig Dysgu a Sgiliau (QTLS) iddynt yn cael eu cydnabod fel Athrawon Ysgol Cymwysedig o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru. 

Athrawon ysgol cymwysedig sydd wedi hyfforddi’r tu allan i’r DU

Gall athrawon ysgol a hyfforddodd dramor wneud cais i gael eu cydnabod yn athro ysgol sy’n gymwys i ymarfer yng Nghymru.

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol

Ystyr gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yw unigolyn nad yw’n cael ei gyflogi fel athro ysgol cymwysedig, ond sy’n darparu neu’n cynorthwyo â darparu unrhyw rai o’r gwasanaethau canlynol gan athro ysgol:

  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau astudio i ddisgyblion
  • cyflwyno gwersi i ddisgyblion (gan gynnwys trwy ddysgu o bell neu dechnegau â chymorth cyfrifiadur)
  • asesu neu adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion

Gall unigolyn gael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol dim ond i ddarparu’r gwasanaethau uchod os bydd yr holl ofynion canlynol wedi’u bodloni:

  • mae wedi cofrestru gyda CGA yng nghategori’r gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol
  • mae’n darparu’r gwasanaethau uchod gan ryngweithio’n uniongyrchol â dysgwyr i gynorthwyo â, neu gefnogi, gwaith athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn yr ysgol
  • mae’n darparu’r gwasanaethau o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon ysgol, neu athrawon enwebedig yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol
  • mae’r pennaeth yn fodlon bod yr unigolyn yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ddarparu’r gwasanaethau

Enghreifftiau o’r bobl y mae angen iddynt gofrestru fel gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol

Dylai cyflogwyr gofio bod y gofyniad am gofrestru yn gysylltiedig â’r rôl y mae’r unigolyn yn ymgymryd â hi, yn hytrach na theitl ei swydd.

Y rheiny sydd angen cofrestru fel gweithwyr cymorth dysgu:

  • cynorthwyydd addysgu/ystafell ddosbarth
  • cynorthwyydd cymorth dysgu/cynorthwyydd addysgu lefel uwch
  • cynorthwyydd anghenion arbennig/ychwanegol
  • cynorthwyydd bugeiliol/lles
  • cynorthwyydd cymorth dwyieithog
  • hyfforddwr
  • goruchwylydd cyflenwi
  • cynorthwyydd y cyfnod sylfaen
  • technegydd
  • anogwyr dysgu
  • contractwyr chwaraeon a cherddoriaeth preifat
  • athro sydd wedi hyfforddi dramor

Y rheiny nad oes angen iddynt gofrestru:

  • gofalwyr safle
  • cynghorydd gyrfaol
  • seicolegydd addysg
  • nyrs ysgol
  • staff gweinyddol/swyddfa
  • staff arlwyo
  • swyddog presenoldeb a chynhwysiant
  • goruchwylwyr amser cinio
  • goruchwylwyr clwb brecwast
  • rheolwr ariannol
  • rheolwr data
  • helpwyr gwirfoddol (e.e. darllen, clybiau ar ôl ysgol)
  • athrawon dan hyfforddiant