CGA / EWC

Registration banner
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ysgolion annibynnol
Gwybodaeth am gofrestru i gyflogwyr: ysgolion annibynnol

Mae dau gategori cofrestru sy’n berthnasol i gofrestreion sy’n gweithio mewn ysgol annibynnol yng Nghymru.

  • athro ysgol annibynnol
  • gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

Athrawon ysgol annibynnol

Os bydd athro mewn ysgol annibynnol yn ymgymryd ag un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, rhaid iddynt fod wedi cofrestru yng nghategori’r athro ysgol annibynnol:

  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
  • cyflwyno gwersi i ddisgyblion (gan gynnwys trwy ddysgu o bell, neu dechnegau â chymorth cyfrifiadur)
  • asesu neu adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
  • mewn uwch rôl arwain yn rheoli addysgu a dysgu yn yr ysgol

Mae’r gofynion hyn yn berthnasol hefyd i weithwyr eraill a allai ymgymryd ag un o’r gweithgareddau uchod o fewn yr ysgol, fel:

  • athrawon cyflenwi
  • athrawon ysgol peripatetig
  • staff sy’n cael eu talu fesul awr
  • gweithwyr ymweliadol fel tiwtoriaid cerddoriaeth, hyfforddwyr chwaraeon sy’n darparu gwersi fel rhan o ddarpariaeth y cwricwlwm. (Nid yw hyn yn berthnasol os ydynt yn sesiynau gwirfoddol ar ôl ysgol).

Sylwch, nid yw SAC yn orfodol i addysgu mewn ysgolion annibynnol.

Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

Os bydd gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol yn cynorthwyo â darparu un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol, mae’n rhaid iddynt gofrestru yng nghategori’r gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol:

  • cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i ddisgyblion
  • cyflwyno gwersi i ddisgyblion (gan gynnwys trwy ddysgu o bell neu dechnegau â chymorth cyfrifiadur)
  • asesu neu adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion

Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i weithwyr eraill hefyd a allai ymgymryd â’r rôl gymorth, fel gweithiwyr cymorth dysgu sy’n cyflenwi.

Nid yw cofrestru’n berthnasol i staff sy’n ymgymryd â rôl weinyddol yn unig yn yr ysgol, neu lle nad ydynt yn rhyngweithio â disgyblion yn rhinwedd rôl addysgu neu ddysgu.