CGA / EWC

Induction banner
Canllawiau cyllid sefydlu
Canllawiau cyllid sefydlu

 

Ein gwasanaethau ar-lein

Fel yr amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, mae nifer o bartïon yn gysylltiedig â chyflwyno’r rhaglen sefydlu. Mae angen i’r partïon hyn weld a chyfnewid gwybodaeth benodol yn gysylltiedig â chyfnod sefydlu’r ANG. Mae’r wybodaeth yn dod o:

  • ffurflenni hysbysu sefydlu a ffurflenni hysbysu athro cyflenwi byrdymor
  • ffurflenni hawlio cyllid sefydlu
  • sesiynau cyflenwi byrdymor a gofnodwyd trwy ein gwefan

Er mwyn hwyluso gweld a rhannu gwybodaeth, rydym wedi datblygu mynediad ar-lein penodol ar gyfer MSau, DSau, a chydlynwyr sefydlu a CPau, sy’n golygu y gellir cynnal a storio gwybodaeth yn ddiogel ar-lein. Bydd yr ANG, yr MS, y DS (os yw wedi’i neilltuo), a’r CP, gyda’r awdurdodiad priodol, yn cael mynediad diogel at y cyfleuster hwn. Bydd y mynediad hwn yn caniatáu iddynt weld manylion am gyfnodau cyflogaeth yr ymgymerodd yr ANG â nhw sy’n cyfrif tuag at sefydlu, a chael at broffil sefydlu ar-lein yr ANG, hefyd.

Darperir manylion ynglŷn â sut i gael at y gwasanaethau ar-lein yn y gydnabyddiaeth ysgrifenedig a anfonir at yr ANG a’r MS ar ôl derbyn yr hysbysiad sefydlu cychwynnol.