Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi bod Lisa Winstone wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Dros Dro arno.
Bydd Lisa yn ymgymryd â’r rôl ar 14 Gorffennaf 2025, yn sgil ymddeoliad y Prif Weithredwr presennol, Hayden Llewellyn, sydd wedi arwain y sefydliad ers ei sefydlu yn 2015.
Ar hyn o bryd, Lisa yw Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol CGA ac mae hefyd yn Ddirprwy Brif Weithredwr y sefydliad. Ers ymuno â’r Cyngor yn 2018, mae Lisa wedi chwarae rôl allweddol yn arweinyddiaeth strategol CGA, gan oruchwylio swyddogaethau corfforaethol craidd a helpu i yrru datblygiad sefydliadol.
Wrth siarad cyn dechrau ei rôl newydd, dywedodd Lisa, “Rwy’n falch o ymgymryd â’r rôl hon ar adeg mor dyngedfennol i’r sefydliad.
“Rwy’n gwbl ymroddedig i’n gweledigaeth gyffredin, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol, dibynadwy, sy’n gweithio er budd y cyhoedd – diogelu dysgwyr/pobl ifanc a’r cyhoedd yn ehangach, gan gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda staff, cofrestreion, aelodau’r Cyngor a phartneriaid wrth i ni adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd o dan arweinyddiaeth Hayden.”
Cyn ymuno â CGA, bu Lisa’n dal nifer o uwch rolau cyllid ac, yn fwyaf diweddar, roedd yn Bennaeth Cynllunio a Dadansoddi Ariannol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Croesawodd Eithne Hughes, Cadeirydd y Cyngor, y penodiad, gan ddweud “Mae’n bleser gen i gadarnhau bod Lisa wedi cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Dros Dro CGA.
“Mae’n dod â hanes cadarn, cyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o CGA gyda hi, gyda’r cyfan oll yn sicrhau pontio hwylus i’r cyfnod nesaf hwn.
“Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i Hayden am ei arweinyddiaeth ragorol a’i ymrwymiad diwyro dros y degawd diwethaf, a dymuno pob llwyddiant i Lisa yn ei rôl newydd.”
Bydd y broses ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr parhaol yn ailddechrau yn nes ymlaen yn y flwyddyn.