Mae tri sefydliad arall ar draws Cymru wedi cael eu cydnabod yn ffurfiol am ansawdd eu darpariaeth, gan ennill y Marc Ansawdd clodwiw ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Derbyniodd Mind yng Ngwent a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru eu dyfarniadau efydd cyntaf, ac ailachredwyd dyfarniad efydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) iddi.
Mae’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA)), yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad mewn darpariaeth gwaith ieuenctid. I dderbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gynnal hunanasesiad yn erbyn cyfres o safonau ansawdd a phasio asesiad allanol.
I gyflawni’r Marc Ansawdd efydd, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos eu bod wedi sefydlu’r sylfeini hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl ifanc i lunio’u darpariaeth, dealltwriaeth gadarn o anghenion y rhai maen nhw’n eu cefnogi, a pholisïau, gweithdrefnau ac arweiniad cadarn i sicrhau ymagwedd ddiogel ac effeithiol.
Wrth dderbyn eu hailachrediad, dywedodd Amber Demetrius, Pennaeth Dysgu Byd-eang, WCIA “Rydym mor falch bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn.
“Roedd y marc ansawdd yn eiliad wych i oedi ac edrych yn ôl dros gyfnod o newid mawr yn ein sefydliad. Fe ysgogodd rai sgyrsiau gwirioneddol ffrwythlon i ni gyda’n partneriaid a’n cyfranogwyr, felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at symud ymlaen i’r bennod nesaf gyda’r gydnabyddiaeth hon.”
Dywedodd Dewi Davies, Cadeirydd Ffermwyr Ifanc Cymru “Ry’n ni’n falch iawn bod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael y Marc ansawdd efydd, ac wrth ein boddau bod yr aseswyr wedi gweld y gwerth mae ein sefydliad yn ei roi trwy strwythur cryf, cefnogol, gyda rolau clir, a diwylliant gofalgar, fel teulu.
“Roedd hi’n bleser clywed bod ein brwdfrydedd am ddatblygiad a lles ieuenctid yn amlwg, gyda phobl ifanc a gwirfoddolwyr fel ei gilydd yn cydnabod yr effaith hirdymor ar dwf personol a chymdeithasol.”
Meddai Tara Reddy, Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd gyda CGA, “Llongyfarchiadau i bob un o’r tri sefydliad hyn ar gyflawni’r dyfarniadau hyn.
“Mae bob amser yn bleser gallu dyfarnu marc ansawdd i sefydliad newydd ac arddangos y gwaith rhagorol mae’n ei ddarparu. Ond mae ailachredu sefydliad yr un mor gyffrous, gan ddangos eu bod wedi ymrwymo o hyd i gynnal safonau uchel ym mhopeth a wnânt.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid, gan gynnwys sut gall eich sefydliad ennill achrediad, neu sut gallwch chi ddod yn asesydd, ewch i wefan CGA.