Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi cael Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) aur.
Cyllidir y Marc Ansawdd gan Lywodraeth Cymru, ac fe'i gweinyddir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae'n wobr genedlaethol sy'n dangos rhagoriaeth o ran darpariaeth gwaith ieuenctid.
I gael achrediad, mae'n rhaid i sefydliadau hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.
Wrth gael y Marc Ansawdd aur, mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi dangos cryfder cydweithio gyda phartneriaid, defnyddio gwybodaeth rheoli, a defnyddio adnoddau yn greadigol i fodloni anghenion pobl ifanc. Mae hefyd yn cydnabod a dathlu cyraeddiadau a datblygiad y bobl ifanc mae'r tîm yn gweithio gyda nhw, a'r effaith mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid wedi ei gael ar eu siwrneiau personol.
Dywedodd James Healan, Prif Swyddog Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, "Ry'n ni'n falch iawn i ddal tair rhan y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid. Mae dathlu hyn gyda'n staff a'r bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r cyrhaeddiad yma wedi bod yn arbennig.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r ffocws ar hunanasesu, a'r hunan werthuso mae'r Marc Ansawdd yn ei roi i'n sefydliad ni. Ry'n ni'n canolbwyntio ar welliant parhaus, ac mae'r Marc Ansawdd wedi galluogi i'r gwelliant yma ddigwydd yn drefnus a systematig."
Dywedodd Tara Reddy, Swyddog Datblygu'r Marc Ansawdd gyda CGA, "Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar gael y Marc Ansawdd aur. Mae'n gyrhaeddiad gwych ac yn destament i'w gwaith caled.
"Yn eu hadroddiad, fe wnaeth yr aseswyr amlygu ymdriniaeth wych o ran gweithio mewn partneriaeth, a'u defnydd o ddata i sicrhau bod gwasanaethau'n ymatebol, yn seiliedig mewn tystiolaeth, ac yn canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc, fel meysydd penodol o arfer da."
I gael mwy o wybodaeth am y Marc Ansawdd, gan gynnwys sut gall eich sefydliad gael ei achredu, neu sut allwch chi fod yn asesydd, ewch i wefan CGA.