Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2026-29 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 wedi ei adnewyddu, gan osod ein blaenoriaethau a'i ymrwymiadau am y blynyddoedd nesaf.
Fel rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol y gweithlu addysg, mae diogelu'r cyhoedd, cynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau wrth graidd ein gwaith. Mae'r manylion hyn yn dangos sut fyddwn yn parhau i gyflawni ein swyddogaethau statudol yn effeithiol, effeithlon, ac yn gynaliadwy, gyda chydraddoldeb, tegwch, a phroffesiynoldeb wrth galon ein hymdriniaeth.
Mae'r Cynllun Strategol 2026-29 yn amlinellu ein blaenoriaethau a’n hamcanion am y tair blynedd nesaf, yn unol â'n cylch gorchwyl statudol. Ynghyd â hyn, mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd heddiw, a sut fyddwn yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, trwy bum amcan strategol uchelgeisiol.
Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Lisa Winstone, "Mae’r cynlluniau cyn yn gosod cyfeiriad clir ar gyfer sut byddwn yn parhau i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, cynnal safonau proffesiynol, a chadw hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg yng Nghymru.
“Maen nhw hefyd yn atgyfnerthu ein hymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant, gan gydnabod pwysigrwydd gweithlu sy’n adlewyrchu’r cymunedau mae’n gwasanaethu. Trwy gydweithio ac ymdriniaethau dan arweiniad tystiolaeth, byddwn yn parhau i gefnogi proffesiwn cryf, amrywiol, a chynaliadwy.”
Datblygwyd y cynlluniau mewn ymgynghoriad â chofrestreion, rhanddeiliaid ar draws y sector addysg ehangach, y cyhoedd, ac aelodau Cyngor y CGA a staff.
Gallwch eu darllen nawr, ynghyd â'r holl ddogfennau corfforaethol, ar wefan CGA.
