CGA / EWC

About us banner
Canllaw Newydd yn Dweud wrth Rieni Beth y Gallant ei Ddisgwyl gan y Gweithlu Addysg
Canllaw Newydd yn Dweud wrth Rieni Beth y Gallant ei Ddisgwyl gan y Gweithlu Addysg

Guide for parents cover image cyRydyn ni, mewn cydweithrediad â Parentkind, wedi datblygu canllaw i reini ynglŷn â’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan athrawon a staff cefnogi dysgu yng Nghymru.

Bydd y canllaw yn cefnogi rhieni wrth chwarae rhan mwy gweithredol yn addysg eu plentyn ac yn darparu cyngor a gwybodaeth ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw a’r hyn y dylent ei wneud os bydd ganddynt unrhyw bryder am gofrestrai.

Daw’r canllaw yn sgil cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig CGA ym Medi 2019.

Dwedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA: “Mae diogelu lles dysgwyr, rhieni a’r cyhoedd wrth wraidd ein gwaith.

“Fel rhiant, pan fyddwch yn anfon eich plant i'r ysgol, rydych yn ymddiried yn yr athrawon a'r staff cymorth sy'n gweithio yno bob dydd. Trwy reoleiddio’r unigolion hynny, gallwn sicrhau y gallwch chi a’ch plentyn ddisgwyl y safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol uchaf gan ein cofrestreion.”

Ychwanegodd John Jolly, Prif Weithredwr Parentkind:

"Mae Parentkind wrth ei fodd yn cael gweithio'n agos â CGA ar y canllaw hwn sy'n esbonio'r gefnogaeth y gallant ei gynnig i ysgolion a rhieni yng Nghymru. Gall wybod beth sydd ar gael a sut i godi cwestiynau neu bryderon wir wneud gwahaniaeth i fwynhad y plentyn a'r rhiant o'r ysgol. 

"Mae'r canllaw, sydd wedi'i ysgrifennu ar gyfer rhieni'n arbennig, yn ceisio atgyfnerthu perthnasau rhwng y cartref a'r ysgol ac annog rhieni i gymryd rhan gadarnhaol yn addysg eu plentyn."

Parentkind yw’r elusen sy’n cefnogi a hyrwyddo’r holl ffyrdd y gall rieni chwarae rhan mewn addysg a dweud eu dweud.

Lawrlwythwch y canllaw