CGA / EWC

About us banner
CGA yn Achredu Llwybrau Amgen i Addysgu gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored
CGA yn Achredu Llwybrau Amgen i Addysgu gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored

Mae dau lwybr amgen newydd i addysgu a gyflwynwyd gan Bartneriaeth y Brifysgol Agored wedi cael eu hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn dilyn proses achredu drwyadl.

Bydd y rhaglenni, y disgwylir iddynt gael eu lansio ym mis Ebrill 2020, yn darparu llwybr cyflogedig i staff sy’n gweithio mewn ysgolion ar hyn o bryd a llwybr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) rhan-amser.

Dywedodd Dr Hazel Hagger, Cadeirydd y Bwrdd Achredu AGA: “Trwy fanteisio ar bŵer technoleg ddysgu o’r radd flaenaf, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gallu cyrraedd pob rhan o Gymru gyda’r rhaglenni AGA hyblyg, cenedlaethol hyn.

“Bellach, bydd cyfle i ddarpar athrawon, nad yw cyrsiau confensiynol yn ymarferol iddynt, ddilyn cwrs i baratoi at fod yn athro/athrawes.

“Bydd y ddwy raglen arloesol hyn yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn addysgu a gwella cyfleoedd dysgu i bawb. Mae cyflwyno’r llwybrau amgen yn gam cyffrous arall ymlaen ar y daith diwygio addysg yng Nghymru.”

Ym mis Mawrth 2019, penododd Llywodraeth Cymru y Brifysgol Agored yng Nghymru i ddatblygu’r rhaglenni.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae angen cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da yn sail i’n taith ddiwygio genedlaethol.  

“Dw i wedi gwneud ymrwymiad clir i ddenu a chadw mwy o raddedigion o safon uchel i addysgu wrth i ni geisio adeiladu ac annog proffesiwn addysg brwdfrydig ac ymroddedig sy’n cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.  

“Un ffordd allweddol o wneud hyn yw trwy gyflwyno mwy o lwybrau i addysgu, ehangu mynediad i bobl o wahanol gefndiroedd proffesiynol er mwyn i ni allu codi safonau i’r holl ddisgyblion a bodloni anghenion darpar athrawon addas, beth bynnag eu cefndir ac amgylchiadau.  

“Rwy’n croesawu’r newyddion heddiw a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o siecrhau’r achrediad hwn.”

Cafodd naw rhaglen eu hachredu i ddechrau ym mis Medi 2019, ac mae dwy raglen arall wedi cael eu hachredu i ddechrau ym mis Medi 2020.

Ers mis Rhagfyr 2017, mae 21 rhaglen AGA amser llawn wedi cael eu cyflwyno i’w hachredu. Aeth y rhain i gyd drwy broses drwyadl a oedd yn cynnwys pwyllgorau o’r Bwrdd Achredu AGA yn clywed cyflwyniadau gan bartneriaethau, a ddilynwyd gan drafodaeth broffesiynol fanwl ac ymweliadau safle ag ysgolion partner.

Mae rhestr o’r holl raglenni a achredwyd gan CGA trwy ei Fwrdd Achredu AGA ar gael yma.