Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymuno â sefydliadau eraill ledled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg.
Mae'r ymgyrch, wedi’i harwain gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn alwad i weithredu i sefydliadau ac unigolion groesawu a defnyddio'r Gymraeg yn eu rhyngweithiadau dyddiol gartref, yn y gwaith, wrth gymdeithasu, ac wrth ddefnyddio gwasanaethau.
Dywedodd Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA "A ninnau’n sefydliad cwbl ddwyieithog sy'n gweithredu yng Nghymru, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r Gymraeg i'n diwylliant. Dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i wreiddio a hyrwyddo ei defnydd ym mhob agwedd o'n gwaith.
"Nid yn unig y mae ein holl wasanaethau ac adnoddau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond rydym hefyd yn gweithio'n rhagweithiol i hyrwyddo gyrfaoedd i siaradwyr Cymraeg, gan weithio'n weithredol i helpu i gynyddu nifer y rheiny sy'n ymarfer trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae'r ymroddiad hwn yn berthnasol i'n rôl fel cyflogwr, hefyd. Rydym eisiau i'n hamgylchedd gwaith fod yn gynhwysol, ac yn un sy'n dathlu amrywiaeth ieithyddol ein staff. Rydym yn falch o ddweud bod 36% o'n gweithlu yn siarad Cymraeg, ac yn annog pawb i ddefnyddio pa Gymraeg bynnag sydd ganddyn nhw yn ystod y diwrnod gwaith".
A ninnau’n sefydliad sector cyhoeddus, mae'n ofynnol i CGA gydymffurfio â nifer o safonau'r Gymraeg. Gallwch ddarllen yr adroddiad monitro blynyddol diweddaraf ar y wefan sy'n rhoi gwybodaeth am eu cydymffurfiaeth ac yn amlinellu sut mae wedi gweithredu'r safonau.
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau dwyieithog y mae'r CGA yn eu cynnig, ewch i'r wefan.