Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi croesawu dau aelod newydd i’w Gyngor.
CGA yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n cofrestru ac yn rheoleiddio ymarferwyr addysg ar draws ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, addysg oedolion a dysgu seiliedig ar waith. Mae aelodau ei Gyngor yn cynnwys cynrychiolaeth o bob grŵp cofrestreion ac maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol cyffredinol y sefydliad, a’i lywodraethu.
Penodwyd aelodau newydd y Cyngor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dilyn proses recriwtio agored a theg, a byddant yn dechrau ar eu rôl newydd o 2 Medi 2024 ymlaen. Y ddau yw Karl Jones, Uwch-ddarlithydd mewn Technolegau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a Dave Edwards, sydd ar secondiad ar hyn o bryd yn Ysgol Gwernyfed ym Mhowys.
Mae’r ddau’n ymuno â 12 cyd-aelod sydd, gyda’i gilydd, yn llunio Cyngor CGA. Yn eu harwain mae’r Cadeirydd, Eithne Hughes, a chânt eu cefnogi gan dîm o staff CGA dan arweiniad Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn.
Wrth groesawu’r aelodau newydd, dywedodd Eithne, “Hoffwn gynnig croeso cynnes iawn i’r ddau aelod newydd o’r Cyngor.
“Fel Cyngor, rydym ni’n chwarae rôl werthfawr, nid yn unig o ran cynnig cefnogaeth a chyfeiriad, ond craffu a her hefyd, i waith CGA.
“Mae’r wybodaeth a’r profiad y daw Karl a David â nhw i’w rolau yn amhrisiadwy ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw dros y blynyddoedd nesaf.”
Dechreuodd tymor y Cyngor presennol ym mis Ebrill 2023.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Cyngor.
Mae mwy o wybodaeth am rôl y Cyngor, neu sut i gofrestru diddordeb mewn dod i gyfarfod, ar gael ar wefan CGA.