CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi ei gyflawniadau o’r flwyddyn ddiwethaf
CGA yn cyhoeddi ei gyflawniadau o’r flwyddyn ddiwethaf

Heddiw (7 Awst 2024), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2024.

Mae’r adroddiad, a osodwyd gerbron y Senedd, yn amlinellu sut mae CGA wedi cyflawni o gymharu â’i amcanion strategol. Hefyd, mae’n cynnwys cyfrifon manwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 sydd wedi’u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac sydd wedi cael y lefelau sicrwydd uchaf.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o adroddiad eleni y mae:

  • cyflwyno swyddogaeth graidd CGA yn effeithiol i reoleiddio er budd y cyhoedd, gyda thros 90,000 o unigolion ar ei Gofrestr Ymarferwyr Addysg
  • cwblhau 301 o achosion priodoldeb i ymarfer ac addasrwydd i gofrestru
  • dod â dros 2,000 o staff o’r sector annibynnol i’r gofrestr
  • ailachredu wyth rhaglen addysg gychwynnol athrawon ac achredu un rhaglen newydd
  • croesawu aelodau newydd i’w Gyngor, ynghyd â Chadeirydd newydd
  • twf parhaus brand Addysgwyr Cymru, gan wneud ei borth swyddi yn un o’r mwyaf o’i fath yng Nghymru, yn cynnwys cannoedd o’r swyddi addysg diweddaraf
  • cyflwyno dros 500 o sesiynau cymorth a chyflwyniadau i randdeiliaid
  • lansio cyfres o bodlediadau newydd, ’Sgwrsio gyda CGA’, sy’n cynnig sgyrsiau i brocio’r meddwl ar bynciau o ddiddordeb i gofrestreion CGA
  • rhyddhau amrywiaeth o adnoddau i gynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, gan gynnwys canllawiau arfer da, animeiddiadau a digwyddiadau datblygiad proffesiynol

Yn sgil cyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA “Rwy’n falch o gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24.

“Mae wedi bod yn amser heriol o hyd i bobl sy’n gweithio ym myd addysg, ond trwy gofrestru a rheoleiddio trylwyr, rydym wedi gallu parhau i ddiogelu dysgwyr a phobl ifanc, gan gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gweithlu.

“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu nid yn unig sut rydym ni wedi cyflawni ein swyddogaethau rheoleiddio, ond hefyd sut rydym ni wedi gweithio i ddylanwadu’n gadarnhaol ar bolisi addysg yng Nghymru, hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg, a chefnogi ein cofrestreion trwy amrywiaeth o ganllawiau, adnoddau a gwasanaethau hynod effeithiol.

“Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen ein cyflawniadau ac, ar ran CGA, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.”

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24 wedi cael eu cyhoeddi ochr yn ochr ag Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2023-24, Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2023-24 ac Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2023-24 CGA. Mae’r gyfres lawn ar gael i’w darllen nawr ar wefan CGA.