CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2022-25 newydd
CGA yn cyhoeddi ei Gynllun Strategol 2022-25 newydd

Cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ei Gynllun Strategol 2022-25, yn nodi ei ddull o gynnal safonau a gwella proffesiynoldeb yn y gweithlu addysg.

Mae’r cynllun, sydd wedi’i seilio ar bedwar amcan allweddol ac a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2022, yn atgyfnerthu gweledigaeth CGA i fod yn rheoleiddiwr blaengar, annibynnol ac ymatebol y mae’r gweithlu addysg, dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd yn ymddiried ynddo.

Dros y tair blynedd nesaf, nod CGA yw:

  • bod yn rheoleiddiwr effeithiol, gan weithio er budd y cyhoedd a meithrin hyder yn y gweithlu addysg
  • cynnal proffesiynoldeb a dysgu yn y gweithlu addysg
  • siapio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd y gweithlu addysg
  • bod yn sefydliad cydnerth, galluog ac ariannol gynaliadwy sy’n cynnig gwerth am arian i’r cofrestreion

Hefyd cyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru o Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 CGA, sy’n esbonio sut y bydd yn ceisio datblygu ei ddull o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth dros y blynyddoedd nesaf trwy ei rôl a’i gylch gwaith.

Cafodd y cynlluniau hyn eu datblygu mewn ymgynghoriad ag aelodau a staff y Cyngor, yn ogystal â rhanddeiliaid yn y gymuned addysg ehangach a’r cyhoedd.

Mae cyfres lawn o ddogfennau corfforaethol ar gael ar wefan CGA.