CGA / EWC

About us banner
CGA yn cyhoeddi prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025
CGA yn cyhoeddi prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wrth (CGA) eu bodd i gyhoeddi'r Athro Rose Luckin fel prif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2025 'Cofleidio deallusrwydd artiffisial (AI) mewn addysg: cyfleoedd, heriau ac ystyriaethau moesegol'.

Mae Rose yn ysgolhaig uchel ei pharch yn rhyngwladol ac yn gyfathrebwr dylanwadol ym maes addysg a thechnoleg, yn enwedig Deallusrwydd Artiffisial (AI). Gyda dros chwarter canrif o brofiad, mae hi'n arbenigwr amlwg ar AI mewn addysg, ac yn gynghorydd i lunwyr polisi, llywodraethau a diwydiant yn fyd-eang.

Yn narlith Siarad yn Broffesiynol, bydd Rose yn archwilio potensial trawsnewidiol AI mewn addysg yng Nghymru. Bydd hi'n mynd i'r afael gyda sut mae technolegau AI eisoes yn cael effaith, tra'n rhoi mewnwelediadau i dueddiadau'r dyfodol y dylai addysgwyr eu disgwyl.

Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn "Ry'n ni wrth ein bodd i groesawu Rose fel y prif siaradwr ar gyfer ein digwyddiad Siarad yn Broffesiynol ym mis Ionawr.

"Mae AI yn prysur ddod yn rhan hanfodol o'n bywydau o ddydd i ddydd. Yn ein darlith 2025, bydd Rose yn rhoi strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori AI yn effeithiol, tra'n ein llywio ni drwy ystyriaethau moesegol a mesurau diogelu.

"Mae'n siŵr o fod yn ddigwyddiad na ddylid ei golli."

Siarad yn Broffesiynol yw'r digwyddiad mwyaf mawreddog o gyfres o ddigwyddiadau CGA, y maent yn eu cynnal i gefnogi cofrestreion yn eu harfer o ddydd i ddydd. Mae siaradwyr y gorffennol wedi cynnwys yr Athrawon Pasi Sahlberg, Michael Fullan, Andy Hargreaves, a Yong Zhao.

Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys sut i gofrestru am docyn am ddim ar wefan CGA nawr.