CGA / EWC

About us banner
CGA yn penodi Andy Borsden i yrru’r Marc Ansawdd ymlaen
CGA yn penodi Andy Borsden i yrru’r Marc Ansawdd ymlaen

Andy Borsden yw’r swyddog datblygu newydd a benodwyd ar gyfer y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gwrthuso a siapio dyfodol y wobr gan gydweithio â’r sector gwaith ieuenctid ehangach.

Ac yntau’n gyn Brif Swyddog Ieuenctid ac aseswr arweiniol ar gyfer y Marc Ansawdd, mae Andy’n ymuno â CGA gyda dros 35 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid.

Mae Andy’n deall pwysigrwydd datblygu a chynnal gwasanaeth o ansawdd uchel gan iddo redeg darpariaeth ieuenctid fel gwirfoddolwr ac wedi arwain timau o weithwyr ieuenctid yn gweithio gyda’r pobl ifanc mwyaf bregus.

Yn gynharach eleni, bu i Lywodraeth Cymru gomisiynu CGA i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar y cyd â ETS Wales.

Mae adolygiad o’r Marc Ansawdd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i archwilio sut gellid ei gryfhau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yn yr holiadur ar-lein yn dod i ben ar 30 Mehefin 2020.

Dysgwch fwy am y Marc Ansawdd.

 

Am unrhyw ymholiadau e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..