CGA / EWC

About us banner
Cofiwch am eich mynediad am ddim i Uwchgynhadledd Addysg y Byd
Cofiwch am eich mynediad am ddim i Uwchgynhadledd Addysg y Byd

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn annog cofrestreion ysgol ac Addysg Bellach (AB) i fanteisio ar y cyfle unigryw i fynychu Uwchgynhadledd Addysg y Byd. Er y cynhelir yr uwchgynhadledd yn fyw 21-24 Mawrth 2022, mae mynediad i’r digwyddiad a’i adnoddau yn dal i fod ar agor i gofrestreion am hyd at flwyddyn trwy Summit Central.

Mae’r Uwchgynhadledd yn cysylltu addysgwyr ar draws y byd ag arbenigedd ac ymarfer anhygoel, ynghyd â’r ymchwil diweddaraf. Roedd digwyddiad eleni’n cynnwys 400+ o siaradwyr o safon fyd-eang fel yr Athro John Hattie; Dr Jamila Lyiscott; yr Arglwydd Sebastian Coe OBE; a phrif siaradwr Siarad yn Broffesiynol 2022, yr Athro Yong Zhao. Hefyd, cafwyd cyfraniadau gan Brif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn a siaradodd am bwysigrwydd rheoleiddio yn y broses o ddatblygu gweithlu addysg proffesiynol, a Chyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA, Bethan Holliday-Stacey, a fu’n sôn am yr hyn mae cofrestru a rheoleiddio’n ei olygu i gofrestreion. 

Mae cofrestru’n dal i fod ar agor trwy Hwb i’r rheiny nad ydynt wedi cofrestru eto. Bydd y rhai sy’n mynychu hefyd yn gallu defnyddio cynllunydd dysgu, fel y bydd yn hawdd iddynt alinio’r sesiynau â blaenoriaethau ysgolion.