CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA ar gyfer 2019-20
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CGA ar gyfer 2019-20

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a'n Cyfrifon, sy'n nodi ein prif gyflawniadau a'n perfformiad yn erbyn ein hamcanion strategol ar gyfer 2019-20.

Dywedodd Angela Jardine, Cadeirydd CGA:

“Mae ein gwaith wedi ymestyn unwaith eto dros y flwyddyn diwethaf wrth i ni ymdrechu i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol i wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru.

“Wrth i'r flwyddyn hon dynnu at ei therfyn, mae ein cofrestreion wedi wynebu heriau sylweddol, na allai neb ohonom fod wedi'u rhagweld. Rhaid i mi gymeradwyo fy holl gydweithwyr a phartneriaid yn y sector addysg am y ffordd maen nhw wedi ymateb ac addasu i'r argyfwng COVID-19.”

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i staff ac aelodau'r Cyngor fel ei gilydd, ynghyd â'i bwyllgorau, am eu hymrwymiad a'u proffesiynoldeb, y gwn y byddant yn parhau dros y blynyddoedd sydd i ddod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i weithredu Cynllun Strategol y Cyngor ar gyfer 2020-23.”

Prif gyflawniadau

Ymhlith y prif gyflawniadau y rhoddir manylion amdanynt yn yr adroddiad mae'r canlynol:

  • Lansiwyd ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig. Cefnogwyd hyn drwy ein sesiynau cymorth rheolaidd a'n cyflwyniadau ar gyfer ein cofrestreion, adeiladu ar ein Canllawiau Arfer Da a chyhoeddi canllaw i rieni mewn partneriaeth â Parentkind.
  • Achredwyd pedair rhaglen addysg gychwynnol athrawon newydd drwy ein Bwrdd Achredu AGA. Roedd dwy o'r rhain yn llwybrau amgen i addysgu sy'n ehangu mynediad i'r proffesiwn.
  • Fe'n comisiynwyd i gyflwyno a datblygu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol  gydag ETS Cymru. Mae'r Marc Ansawdd yn rhoi sicrwydd i bobl ifanc, eu rhieni, gwarcheidwaid, cyllidwyr, sefydliadau partner a sefydliadau eraill o ansawdd uchel darpariaeth gwaith ieuenctid.
  • Bu i ni arwain gwaith yn genedlaethol i ddatblygu Addysgwyr Cymru, y brand a'r llwyfan digidol newydd i hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Bydd y llwyfan newydd yn cefnogi ymarferwyr wrth eu gwaith i gyrchu cyfleoedd dysgu proffesiynol a gyrfaol, ac yn darparu gwybodaeth werthfawr i'r rhai hynny sy'n ystyried ymuno â'r gweithlu.

 

Ystadegau'r flwyddyn

  • Ar 31 Mawrth, roedd 80,119 o ymarferwyr ar ein Cofrestr ac roeddem wedi prosesu dros 12,000 o geisiadau newydd i gofrestru
  • Gwnaed 124,000 o wiriadau gan gyflogwyr a'r cyhoedd yn ystod y flwyddyn
  • Terfynom 308 o achosion priodoldeb i ymarfer a chwblhaom 215 o asesiadau addasrwydd i gofrestru
  • Ar 31 Mawrth, roedd ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol wedi'i lawrlwytho dros 25,000 o weithiau
  • Rhoesom 450 o gyflwyniadau a sesiynau cymorth i fyfyrwyr, cofrestreion, cyflogwyr a rhanddeiliaid yn ystod y flwyddyn
  • Roedd nifer yr ymarferwyr sy'n defnyddio'r PDP wedi cyrraedd 25,318 erbyn diwedd mis Mawrth
  • Cyhoeddom dystysgrifau SAC i 1,074 o fyfyrwyr a chefnogom 3,500 o ANG a'u mentoriaid yn rhan o'r rhaglen sefydlu statudol

 Darllenwch yr adroddiad llawn neu gwelwch drosolwg o'n cyflawniadau a gweithgareddau yn 2019-20.