CGA / EWC

About us banner
Cyhoeddi ystadegau diweddaraf y gweithlu addysg yng Nghymru
Cyhoeddi ystadegau diweddaraf y gweithlu addysg yng Nghymru

Heddiw, (31 Gorffennaf 2024), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi eu data diweddaraf ar y gweithlu addysg yng Nghymru.

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg Cymru 2024 y rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf cynhwysfawr am bobl sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Daw’r data o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

Am y tro cyntaf, mae adroddiad eleni yn cynnwys gwybodaeth am athrawon a staff cymorth dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol. Mae hyn yn dilyn gofyniad newydd gan y llywodraeth ym Mai 2023, yn gofyn bod eu staff yn cofrestru gyda CGA a bod eu hymddygiad a’u hymarfer yn cael eu rheoleiddio. 

Mae recriwtio effeithiol i’r proffesiynau addysg, a chadw’r ymarferwyr hyn wedi hynny, yn parhau’n flaenoriaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae niferoedd y gweithlu yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog o gymharu â 2023; fodd bynnag, bu gostyngiad bach yn nifer y gweithwyr cymorth dysgu ysgolion.

Meddai Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn “Rydym yn falch o gyflwyno ein ciplun blynyddol o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Gobeithio y bydd yn parhau i gynorthwyo â’r drafodaeth a’r safiad polisi ynghylch pynciau pwysig ynghylch y gweithlu addysg, gan gynnwys recriwtio, cadw, cydraddoldeb a’r Gymraeg.”

Hefyd, bydd CGA yn cynnal digwyddiad briffio polisi ym mis Tachwedd i fwrw golwg fanylach ar y data ac i ddeall unrhyw dueddiadau sy’n dod i’r amlwg. Bydd gwybodaeth am y digwyddiad hwn, gan gynnwys sut i fwcio, ar gael cyn hir ar sianeli CGA.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg Cymru 2024 ar gael i’w ddarllen ar wefan CGA.