CGA / EWC

About us banner
Dyfodol presenoldeb CGA ar X
Dyfodol presenoldeb CGA ar X

Roeddem am roi gwybod i'n cynulleidfaoedd ein bod wedi gwneud penderfyniad i ddod â'n presenoldeb ar X (Twitter yn flaenorol), i ben yn syth.

Mae hwn wedi bod yn benderfyniad yr ydym wedi ei ystyried ers peth amser, a rhoddwyd ystyriaeth ddofn iddo. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae X wedi newid yn sylweddol, ac wedi bod yn gynyddol anodd i ni alinio’n presenoldeb yno, gyda'n gwerthoedd a'n hegwyddorion fel sefydliad.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn gwerthfawr iawn ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu gyda'n cofrestreion, a rhanddeiliaid ehangach. Er na fyddwn ni bellach ar X, rydym yn mynd i barhau i feithrin ymgysylltiad ystyrlon trwy ein sianeli eraill, gan gynnwys Facebook a LinkedIn.