CGA / EWC

About us banner
EWC yn lansio ei gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd nesaf
EWC yn lansio ei gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd nesaf

Cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ei Gynllun Strategol ar 1 Ebrill 2020, gan amlinellu ei genhadaeth i gynnal safonau a gwella proffesiynoldeb o fewn y gweithlu addysg dros y tair blynedd nesaf.

Ac yntau wedi’i danategu gan bedwar amcan, mae Cynllun Strategol CGA 2020-23 yn atgyfnerthu gweledigaeth y sefydliad fel rheoleiddiwr annibynnol a blaengar y mae ei gofrestreion, dysgwyr a’r cyhoedd ehangach yn ymddiried ynddo.

Dros y tair blynedd nesaf, nodau CGA yw i:

  • fod yn rheoleiddiwr effeithiol sy’n sicrhau bod hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg yn cael ei gynnal
  • hyrwyddo dysgu a phroffesiynoldeb o safon uchel o fewn y gweithlu addysg
  • chwarae rhan flaenllaw yn datblygu polisi addysg a hwyluso’i weithredu yng Nghymru
  • sicrhau y cynhelir gallu a chapasiti’r sefydliad, gan sicrhau’r gwerth gorau i gofrestreion

Cyhoeddwyd hefyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol CGA 2020-24 ar 1 Ebrill 2020. Esbonia’r cynllun sut y bydd yn ceisio datblygu ei ddull gweithredu ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth dros y blynyddoedd nesaf trwy ei rôl a’i gylch gwaith.

Cafodd y cynlluniau eu datblygu mewn ymgynghoriad ag aelodau’r Cyngor a staff yn ogystal â rhanddeiliaid yn y gymuned addysg ehangach a’r cyhoedd ehangach.

  Cynllun Strategol CGA 2020-23

  Cynllun Cydraddoldeb Strategol CGA 2020-24