Mae Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Hayden Llewellyn, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl chwarter canrif o wasanaeth.
Ymunodd Hayden a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) pan gafodd ei greu yn 2000, gan weithio fel Dirprwy Brif Weithredwr, cyn dod yn Brif Weithredwr pan wnaeth y CyngACC droi yn CGA yn 2014.
Yn ystod ei gyfnod, mae Hayden wedi arwain CGA drwy ei ffurfio, heriau'r pandemig, ac ehangu'r Gofrestr o Ymarferwyr Addysg. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf dros y gweithlu addysg, gan weithion gyson ar eu rhan i sicrhau grymoedd sy'n cryfhau'r proffesiwn, wrth ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc, a'r cyhoedd.
Gan ymateb i ymddeoliad Hayden, dywedodd Cadeirydd CGA, Eithne Hughes, "Mae arweinyddiaeth Hayden a'i ymroddiad ddi-dor wedi bod yn hanfodol yn siapio CGA fel y sefydliad uchel ei barch y mae heddiw. Mae ei ymrwymiad i gefnogi'r gweithlu addysg a diogelu dysgwyr a phobl ifanc ledled Cymru wedi gadael gwir waddol.
"Ar ran y Cyngor, rwy'n estyn ein diolch am ei wasanaeth eithriadol a phob dymuniad da iddo yn ei ymddeoliad."
Bydd Hayden yn gorffen yn swyddogol yr haf yma. Yn y cyfamser, mae proses recriwtio yn mynd rhagddi i ddod o hyd i Brif Weithredwr newydd. Mae mwy o wybodaeth ynghylch hyn ar wefan CGA.