CGA / EWC

About us banner
Helpu chi i feddwl am yr arfer orau
Helpu chi i feddwl am yr arfer orau

Cydnabyddwn bod hwn y gyfnod heriol i’n cofrestreion. Mae llawer ohonynt wedi gofyn am gyngor gennym o ran eu hymarfer. Darllenwch beth sydd gan eich rheoleiddiwr i’w ddweud.

O ganlyniad i COVID-19, mae llawer ohonych wedi cysylltu â ni am arweiniad oherwydd bod gofyn i chi addysgu dysgwyr mewn ffyrdd newydd a heriol gan ddefnyddio nifer o lwyfanau cyfryngau cymdeithasol. Rydych yn poeni am gadw’n ddiogel ar-lein a sicrhau bod ffiniau proffesiynol yn cael eu cynnal.

Rydych hefyd wedi codi’r heriau rydych yn eu hwynebu oherwydd bod arholiadau’r haf wedi cael eu canslo a mae disgwyl i chi ‘gyfrifo’ cyflawniad tebygol eich dysgwyr i fwydo i mewn i graddau ‘teg’. Dydych ddim eisiau gadael eich dysgwyr i lawr ac rydych yn poeni am sut i gael nhw’n ôl ar y trywydd iawn unwaith i chi ddychwelyd i’ch gweithle.

Wrth drafod y materion hyn gyda chi, rydym wedi’ch atgoffa bod Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA yno i’ch arwain, i helpu gyda dyfarniadau a phenderfyniadau byddech efallai’n eu gwneud. Dylech ei ddefnyddio fel pwynt cyfeirio – meddyliwch am y 5 egwyddor a’r digwyliadau sydd ohonoch. Byddant yn eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir pan fyddech yn wynebu’r heriau uchod.

Rydym wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau arfer da i’ch helpu ymhellach. Mae dau ohonynt yn canolbwyntio’n benodol ar y cyfryngau cymdeithasol a’r heriau sy’n ymwneud ag arholi ac asesu. Digon o ganllawiau ymarferol i’ch cefnogi.

Os cewch eich hun mewn sefyllfa sy’n peri pryder i chi, ceisiwch gymorth a chefnogaeth cyn gynted â phosibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur, neu o leiaf rhywun rydych yn ymddiried ynddo. Gall yr ymyrraeth honno fod yn werthfawr tu hwnt.

Ac yn olaf – cofiwch ein bod yma ichi. Mae ein holl staff yn gweithio adref ac mae modd cysylltu â nhw’n hawdd trwy e-bost  os oes gennych unrhyw ymholiad neu bryder.