CGA / EWC

About us banner
Lansio gwefan newydd i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg
Lansio gwefan newydd i hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg

Lansiwyd gwefan newydd sydd wedi’i bwriadu i hyrwyddo gyrfaoedd a dilyniant gyrfa yn y proffesiynau addysg yng Nghymru heddiw (8 Mehefin 2021).

Gwefan Addysgwyr Cymru – www.addysgwyr.cymru – fydd y ddesg gymorth gychwynnol a’r ‘ffenest siop’ ar gyfer gweithlu’r sector, gan ddarparu:

  • porth gyrfaoedd, lle gall bobl ddod o hyd i wybodaeth, gan gynnwys y cymwysterau a’r sgiliau mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi penodol
  • porth hyfforddiant lle gall darparwyr hysbysebu eu cyfleoedd hyfforddiant a lle gall bobl chwilio am hyfforddiant i fynd i mewn i’r proffesiwn. I’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg yn barod, bydd y porth hyfforddiant yn eu galluogi i chwilio am gyfleoedd dysgu proffesiynol
  • porth swyddi Cymru gyfan, lle gall cyflogwyr hysbysebu eu swyddi gwag yn rhad ac am ddim a lle gall addysgwyr presennol chwilio am swyddi.

Dwedodd Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA:

“Rydym ni wedi gweithio'n agos â'r sector i ddatblygu gwefan a gwasanaeth sy'n ceisio ysbrydoli, denu a recriwtio'r talent gorau i'r gweithlu addysg yng Nghymru.

Gwefan Addysgwyr Cymru fydd y pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un sy'n ystyried dilyn gyrfa ym maes addysg, ac i ymarferwyr presennol sy'n awyddus i gamu ymlaen yn eu gyrfa.”

Gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Addysgwyr Cymru a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd yn y proffesiynau addysg yng Nghymru.

Datblygwyd y wefan ar ran Llywodraeth Cymru gyda’r nod o gynyddu’r nifer o bobl sy’n hyfforddi i ymuno â’r sector ac sy’n aros ynddo.

Archwilio gwefan Addysgwyr Cymru