CGA / EWC

About us banner
Lansio ‘Meddwl Mawr’ – clwb llyfrau a chyfnodolion newydd CGA
Lansio ‘Meddwl Mawr’ – clwb llyfrau a chyfnodolion newydd CGA

Gall ymddiddori mewn ymchwil chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu eich syniadau a’ch ymarfer proffesiynol. Dyna pam rydym ni’n lansio ‘Meddwl Mawr’, sef clwb llyfrau a chyfnodolion newydd sydd â’r nod o’ch cefnogi chi ar eich taith dysgu proffesiynol.

Byddwn yn rhannu argymhellion rheolaidd, gan eich cyfeirio at rai o’r 4,500 a mwy o lyfrau ac erthyglau cyfnodolion sydd ar gael ar EBSCO – sef llyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd. Diolch i’ch cofrestriad gyda CGA, gallwch fynd yn rhad ac am ddim at EBSCO trwy eich Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP).

P’un a ydych chi’n gweithio mewn ysgol, coleg, lleoliad dysgu yn y gwaith neu leoliad gwaith ieuenctid, bydd rhywbeth yno i bawb!

Rydym ni wedi dewis dau lyfr i ddechrau ein hargymhellion, ill dau’n bwrw golwg ar agweddau gwahanol ar addysgeg. Maent ar gael yn rhad ac am ddim ar EBSCO.

Dysgwch ragor am Meddwl Mawr a darllenwch ein hargymhellion yma.