CGA / EWC

About us banner
Llongyfarchiadau i'n holl athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru
Llongyfarchiadau i'n holl athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn falch o longyfarch y rheiny sydd wedi cael Statws Athro Cymwys (SAC) heddiw.

Mae'r garreg filltir bwysig yn nodi cychwyn taith werth chweil yn y proffesiwn addysgu.

Mae cael SAC yn destament i'r gwaith caled, ymroddiad, a'r gwydnwch a ddangoswyd gan bob athro newydd gymhwyso (ANG). Mae'n dangos eu hymroddiad i feistroli’r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn "Llongyfarchiadau enfawr i bawb sy'n cael SAC heddiw.

"Mae athrawon yn cael effaith sylweddol ar fywydau dysgwyr a phobl ifanc, yn ogystal â'r proffesiwn addysg yn ehangach.

"Fel y rheoleiddir annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi drwy gydol eich gyrfa, gan gynnig adnoddau a chanllawiau i'ch helpu i ffynnu yn eich rolau.

"Pob dymuniad da i'r dyfodol."

I'r rheiny sy'n dechrau eu rôl gyntaf fel athro ysgol, mae'n bwysig cofio fod yn rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda CGA, yn y categori cywir, cyn i chi allu dechrau gweithio yng Nghymru. Fel ANG yng Nghymru, bydd hefyd angen i chi gwblhau cyfnod sefydlu statudol o fewn pum mlynedd o gael eich SAC.

Os ydych chi'n chwilio am eich rôl gyntaf, mae gan Addysgwyr Cymru y nifer uchaf o swyddi gag o bob cwr o sector addysg Cymru.

I gael y canllawiau, adnoddau, a'r gwasanaethau diweddaraf gan CGA, ewch i'r wefan.