CGA / EWC

About us banner
Newidiadau i gofrestru i weithlu addysg Cymru
Newidiadau i gofrestru i weithlu addysg Cymru

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi bod nifer o newidiadau wedi dod i rym heddiw (10 Mai 2024) ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn addysg ar draws Cymru.

Y cyntaf o’r newidiadau hynny yw ychwanegu dau gategori cofrestru newydd at Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA:

  • pobl sy’n gweithio fel pennaeth, neu uwch arweinydd (sy’n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli addysgu a dysgu), mewn addysg bellach
  • ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned (a gyflogir gan awdurdodau lleol)

Maent yn ymuno â’r 11 categori presennol sy’n gorfod cofrestru CGA ar hyn o bryd cyn y gallant ddechrau gweithio yng Nghymru.

Mae’r ail newid yn cyflwyno cymwysterau gofynnol i’r rhai sy’n gweithio fel athrawon Addysg Bellach (AB) ac ymarferwyr dysgu oedolion. Mae’r rhestr lawn o gymwysterau gofynnol a dderbynnir i’w gweld ar wefan CGA. Os nad oes gan bobl y cymwysterau hyn ar hyn o bryd, mae ganddynt dair blynedd i’w hennill (pum mlynedd os ydynt yn cael eu cyflogi’n rhan-amser).

Mae’r newidiadau’n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, gan Lywodraeth Cymru, rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2023, ac maent yn helpu i gau anghysondebau yn y ddeddfwriaeth bresennol. 

Er mwyn gweithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru, mae’n rhaid i unigolion sy’n gweithio mewn rolau penodol gofrestru gyda CGA gyntaf.

Meddai Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr CGA “Mae cofrestru a chymwysterau gofynnol yn arfer cyffredin mewn proffesiynau a reoleiddir, gan gynnwys meddygaeth, y gyfraith a gwaith cymdeithasol. Mae’n golygu mai dim ond y bobl sy’n cynnal safon uchel o ymddygiad, ac sy’n gymwys, yn wybodus ac yn fedrus, sy’n gallu gweithio mewn rolau penodol.

“Fel rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, mae’r newidiadau hyn yn rhoi cylch gwaith ehangach i ni ddiogelu dysgwyr, pobl ifanc, a rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnal ffydd a hyder y cyhoedd ar yr un pryd.”

Bydd y rhai sy’n gorfod cofrestru o dan y newidiadau wedi cael eu cofrestru’n awtomatig trwy eu cyflogwr.

Os hoffech ddarganfod rhagor o wybodaeth am gofrestru gyda CGA, ewch i’r wefan.