CGA / EWC

About us banner
Rhannu eich barn ar Gynllun Strategol CGA
Rhannu eich barn ar Gynllun Strategol CGA

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad heddiw (31 Ionawr 2025), yn ceisio barn ar eu Cynllun Strategol 20025-28.

Mae'r cynllun drafft yn gosod blaenoriaethau CGA am y tair blynedd nesaf. Mae wedi ei gefnogi gan bedwar prif amcan, ac yn atgyfnerthu eu gweledigaeth i fod yn rheoleiddir proffesiynol, annibynnol y gellid ymddiried ynddo, sy'n gweithio ym mudd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb, a gwella safonau.

Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi, Bethan Holliday-Stacey "Mae ein Cynllun Strategol 2025-28 yn gosod sut rydym yn bwriadu cyflawni ein swyddogaethau statudol craidd, sy'n cynnwys cofrestru a rheoleiddio gweithlu addysg Cymru.

"Mae'r ymgynghoriad yn gyfle pwysig i bawb gyfrannu at lywio ein cyfeiriad tua'r dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich ymatebion."

Croesewir adborth gan rhanddeiliaid, gan gynnwys cofrestreion CGA, rhieni/gwarcheidwaid, a sefydliadau partner addysg a rheoleiddio. Byddai mewnbwn yn cael ei groesawu'n arbennig gan unigolion, a sefydliadau sy’n cynrychioli unigolion gyda phrofiadau bywyd a chefndiroedd amrywiol.

Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a'u hystyried cyn cyhoeddi'r cynlluniau terfynol.

Mae'r ddogfen drafft a chyfle i roi adborth ar wefan CGA. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 12:00 ar 13 Mawrth 2025.