“Ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), estynnaf fy nghydymdeimlad yn sgil y newyddion trist bod Ei Mawrhydi, Y Frenhines Elizabeth II, wedi marw.
Ers dros 70 mlynedd, ymgysegrodd Ei Mawrhydi i wasanaethu ein cenedl a’r Gymanwlad. A ninnau’n sefydliad sy’n cefnogi’r gweithlu addysg, cofiwn ei chefnogaeth ddiwyro hi a’i gŵr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, i addysg, dysg a datblygiad ein pobl ifanc”.
“Ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), estynnaf fy nghydymdeimlad yn sgil y newyddion trist bod Ei Mawrhydi, Y Frenhines Elizabeth II, wedi marw.
Ers dros 70 mlynedd, ymgysegrodd Ei Mawrhydi i wasanaethu ein cenedl a’r Gymanwlad. A ninnau’n sefydliad sy’n cefnogi’r gweithlu addysg, cofiwn ei chefnogaeth ddiwyro hi a’i gŵr, Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, i addysg, dysg a datblygiad ein pobl ifanc”.
Heddiw (1 Medi 2022), mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol diwygiedig.
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru ac, yn unol â deddfwriaeth, mae’n ofynnol iddo adolygu’r Cod bob tair blynedd. Cwblhawyd adolygiad 2022 o God 2019 yn dilyn ymgynghoriad ag unigolion cofrestredig, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, ac adborth ganddynt. Mae’r diwygiadau a wnaed yn rhai arwynebol yn bennaf, neu’n rhoi esboniad ychwanegol.
Mae’r Cod yn pennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir o’r 82,000 o ymarferwyr addysg sydd wedi cofrestru gyda CGA sy’n gweithio ledled Cymru, a bwriedir iddo lywio’u barnau a’u penderfyniadau.
Mae’r diweddaraf, sy’n rhan o gyfres o ganllawiau, wedi’i anelu at bobl mewn rolau arwain uwch a chanolig, ac mae’n amlygu rhai awgrymiadau defnyddiol i helpu llywio barnau a phenderfyniadau proffesiynol cofrestreion o ddydd i ddydd.
Yn ogystal â’r canllawiau ymarfer da, mae CGA hefyd yn cynnig hyfforddiant mewnol yn uniongyrchol i gofrestreion a chyflogwyr ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y Cod, cofrestru a defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau a digwyddiadau cymorth.
Heddiw (26 Awst), mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2021-22, yn amlinellu sut mae’r sefydliad wedi gweithio i ddiogelu buddiannau dysgwyr a phobl ifanc, rhieni, gwarcheidwaid a’r cyhoedd.
Fel rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru, un o swyddogaethau craidd CGA yw ymchwilio i’r nifer bach o honiadau a allai fwrw amheuaeth ynghylch priodoldeb cofrestrai i ymarfer, a chynnal gwrandawiad iddynt.
Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys data ar y mathau o achosion y mae CGA yn delio â nhw (gan gynnwys pobl sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd a phobl sy’n gwneud cais i gofrestru), tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn a phroffiliau’r bobl sy’n gysylltiedig ag achosion.
Ry’n ni wedi ail-ddylunio ein gwefan i wella’r gwasanaeth a’r profiad ry’ch chi’n ei gael. I roi adborth ar y wefan newydd, cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.