Cyfrifoldeb y cyflogwr a’r asiant i gyfeirio
Mae cyflogwyr personau cofrestredig (ysgolion (Cyrff Llywodraethu) awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac unrhyw gorff perthnasol arall) ac asiantaethau yn gyfrifol am gyfeirio achosion honedig o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol ac euogfarn am drosedd berthnasol i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
Mae’n rhaid i gyflogwr neu asiant gyfeirio achos yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd, a Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, fel y'i diwygiwyd, lle:
- mae wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru, neu gallai fod wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru pe na bai ef neu hi wedi stopio eu darparu nhw (cyflogwr)
- terfynodd drefniadau gyda pherson cofrestredig, neu gallai fod wedi terfynu trefniadau gyda pherson cofrestredig pe na bai ef neu hi wedi eu terfynu neu achos tebyg (asiant)
Nid yw'r canlynol yn gwrthwneud dyletswydd statudol cyflogwr neu asiantaeth i gyfeirio achos:
- Setliad neu gytundebau cilyddol lle roedd diswyddo yn bosibilrwydd.
- Diswyddo am ‘Reswm Sylweddol Arall’ (RhSA) lle terfynwyd cytundeb cyflogaeth o ganlyniad i fater disgyblaethol (ymddygiad a/neu gymhwysedd)
Mewn unrhyw achos, gall CGA ymchwilio i unrhyw achos a gyfeiriwyd ato os yw o’r farn y gallai’r honiadau fod yn gyfystyr â honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu euogfarnu am drosedd berthnasol.
Cyfrifoldeb cyflogwyr
Mae’n rhaid i gyflogwr adrodd ffeithiau achos i CGA:
- pan fo cyflogwr wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig yng Nghymru ar sail:
- camymddygiad;
- anghymhwysedd proffesiynol; neu
- euogfarn am drosedd berthnasol.
- lle gallai fod wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio gwasanaethau person cofrestredig ar y fath sail pe na bai’r person cofrestredig wedi rhoi’r gorau i ddarparu’r gwasanaethau hynny.
Cyfrifoldeb asiantau
Mae’n rhaid i asiant adrodd ffeithiau achos i CGA:
- lle mae wedi terfynu trefniadau ar sail:
- camymddygiad;
- anghymhwysedd proffesiynol; neu
- euogfarn am drosedd berthnasol.
- lle gallai fod wedi terfynu trefniadau ar y fath sail pe na bai’r person cofrestredig wedi eu terfynu; neu
- lle gallai fod wedi ymatal rhag gwneud trefniadau newydd ar gyfer person cofrestredig ar y fath sail pe na bai’r person cofrestredig wedi rhoi’r gorau i gynnig ei hun i weithio.
Papurau cyfeirio – beth i’w ddarparu
Dylai cyflogwyr ac asiantau gyfeirio at Ran 2 o Atodlen 5 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, fel y'i diwygiwyd i weld rhestr o’r gwaith papur perthnasol y dylid ei gynnwys gyda’r atgyfeiriad os yw ar gael.
Achosion Cyfeirio a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)
Pan fydd CGA yn derbyn achos cyfeirio gan gyflogwr neu asiant, ac mae’n ymddangos y gallai achos cyfeirio o’r fath ymwneud â niwed, neu berygl niwed i blant neu oedolion agored i niwed, bydd yn cyflwyno’r achos cyfeirio i’r GDG.
Gallai’r GDG naill ai benderfynu cynnwys y person cofrestredig ar y Rhestr Waharddedig Plant neu’r Rhestr Waharddedig Oedolion, neu gallai gyfeirio’r achos cyfeirio yn ôl at CGA i’w ystyried ar wahân ar sail broffesiynol.
Nid oes gan CGA unrhyw orchwyl i ymchwilio i, neu wrando ar unrhyw fater sy’n ymwneud â niwed neu berygl niwed i blant neu oedolion agored i niwed.