CGA / EWC

Fitness to practise banner
Sut i gwyno am ymarferydd addysg sydd wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
Sut i gwyno am ymarferydd addysg sydd wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Pwy all gwyno?

Gall unrhyw berson neu sefydliad wneud cwyn am berson sydd wedi’i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Am beth gallaf gwyno?

Mae’n rhaid i gŵyn ymwneud ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol honedig person cofrestredig.

At ddibenion CGA, ystyr ymddygiad proffesiynol annerbyniol yw ‘ymddygiad nad yw’n cyrraedd y safon a ddisgwylir gan berson cofrestredig’ ac ystyr anghymhwysedd proffesiynol difrifol yw ‘ymddygiad sy’n dangos lefel o gymhwysedd sy’n is o lawer na’r hyn a ddisgwylir gan berson cofrestredig, o ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol’.

Pa ymddygiad fydd yn ‘annerbyniol’ yn llygaid CGA?

Dylech ddarllen y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cofrestreion gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, sydd wedi’i amgáu. Mae hyn yn esbonio’r hyn y gallai’r proffesiwn addysg ei ystyried yn ‘annerbyniol’ o ran ymddygiad ymarferydd, ac felly’r math o ymddygiad y gallai fod gan CGA ddiddordeb mewn ymchwilio iddo. Nid yw’r Cod yn trafod pob enghraifft, wrth gwrs.

Fel canllaw, dylech nodi bod y trothwy i CGA ganfod ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol yn uchel. Er enghraifft, os caiff person cofrestredig ei ddiswyddo oherwydd ei ymddygiad naill ai tu mewn neu'r tu allan i sefydliad addysgol, mae’n fwy tebygol y bydd CGA o’r farn bod hyn yn annerbyniol.

Mae ymddygiad sy’n annhebygol o arwain at ddiswyddo gan gyflogwr yn llai tebygol o fod yn annerbyniol yn llygaid CGA.

A oes unrhyw beth y mae angen i mi ei wneud yn gyntaf cyn cwyno?

Oes. Dim ond os yw’r un gŵyn yn union eisoes wedi’i hadrodd i gyflogwr neu asiant y person cofrestredig, ac os derbyniwyd ymateb i’r gŵyn honno, y bydd CGA yn ei derbyn. Ystyr ‘cyflogwr’, fel arfer, yw ysgol (Corff Llywodraethu) a/neu’r awdurdod lleol, sefydliad addysg bellach neu unrhyw gorff perthnasol arall sy’n cyflogi gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymorth ieuenctid neu ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. Os nad ydych wedi gwneud hyn, bydd angen gwneud hyn yn gyntaf.

Yna bydd angen i CGA weld tystiolaeth ysgrifenedig eich bod wedi cyflwyno’r un gŵyn, a chanlyniad ymchwiliad y cyflogwr neu’r asiant iddi, pan anfonwch y gŵyn i mewn.

Cwynion na fydd CGA yn eu derbyn

Ni fydd CGA yn derbyn cwyn sy’n ymwneud â:

  1. pherson nad yw wedi’i gofrestru gyda CGA;
  2. iechyd person cofrestredig;
  3. unrhyw broblemau sydd gennych gyda chyflogwr, asiantaeth, Cyngor lleol, Corff Llywodraethu, sefydliad addysg bellach neu sefydliad arall nad ydynt wedi’u datrys yn foddhaol i chi, oni bai eu bod yn ymwneud ag ymddygiad person cofrestredig.

Ni all CGA chwaith dderbyn cwynion dienw.

Rwyf am gyflwyno cwyn o hyd. Sut dylwn wneud hyn?

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod eich cwyn yn glir ac yn hawdd ei deall, a’i bod:

  • yn union yr un peth â’r gŵyn a wnaethoch i’r cyflogwr neu’r asiant (os nad yw, ni fydd CGA yn ei derbyn)
  • yn benodol, yn glir ac yn gryno – bydd angen i chi ei chyfyngu i’r blwch ar dudalen 3 y ffurflen
  • yn cynnwys enwau, dyddiadau ac amseroedd pwysig
  • yn atodi’r canlynol:
    • tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eich bod wedi cyflwyno’r un gŵyn i’r cyflogwr neu’r asiant (rhaid i chi rifo hon a chyfeirio ati ar dudalen 3 y ffurflen gwyno)
    • tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos bod y cyflogwr neu’r asiant wedi ymchwilio i’ch cwyn, ac wedi dweud wrthych, yn ysgrifenedig, beth oedd canlyniad yr ymchwiliad hwnnw (rhaid i chi rifo hon a chyfeirio ati ar dudalen 3 y ffurflen gwyno)

Os na fyddwch yn cyflwyno'ch cwyn yn y fformat a nodir uchod, caiff ei dychwelyd atoch.

Tystiolaeth ysgrifenedig arall sy’n dangos bod sail i’r hyn yr ydych yn ei ddweud
Gallai hyn gynnwys datganiadau sydd wedi’u hysgrifennu gan bobl a oedd yn dystion i’r digwyddiadau rydych yn sôn amdanyn nhw, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau, memos, cofnodion dyddiadur ac yn y blaen. Os penderfynwch ddefnyddio gwybodaeth y mae angen caniatâd i’w defnyddio, sicrhewch eich bod yn cael hon yn gyntaf.

Mae’n bwysig iawn i chi anfon cymaint o wybodaeth ag y gallwch atom i roi ‘sylwedd’ i’ch cwyn. Hebddi, mae’n bosibl na fydd y Cyngor yn gallu symud y mater yn ei flaen ymhellach.

Cofiwch fod trothwy CGA ar gyfer canfod ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol yn uchel.

Anfonwch eich cwyn a’r wybodaeth atodol gyda’i gilydd

Os anfonwch wybodaeth yn ddiweddarach, neu mewn rhannau gwahanol, mae’n bosibl na fydd CGA yn ei derbyn. Mae hyn oherwydd ei bod yn bwysig, er tegwch, i’r person cofrestredig dan sylw allu gweld ac ateb unrhyw gŵyn a gyflwynir amdano, a chael digon o amser i wneud hyn.

Mae hefyd yn bwysig bod CGA yn ymdrin â chwynion mor gyflym â phosibl er mwyn lleihau’r pwysau ar bawb dan sylw, ac i sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd teg a thryloyw fel corff rheoleiddio.

Sut bydd CGA yn ymdrin â’m cwyn?

Lle bydd CGA yn derbyn cwyn, bydd yn ei hanfon at Bwyllgor Ymchwilio i ymchwilio iddi.
Cyn yr ymchwiliad hwn, bydd CGA yn anfon y gŵyn a’r wybodaeth atodol at:

  • y person cofrestredig. Bydd ef neu hi’n cael amser i ymateb i’r gŵyn.
  • cyflogwr y person cofrestredig. Gofynnir iddo a yw wedi derbyn y gŵyn ai peidio, wedi ymchwilio iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad os yw wedi dod i be

Caiff yr holl wybodaeth a gesglir ei rhoi i’r Pwyllgor Ymchwilio.

Pa gamau y gall Pwyllgor Ymchwilio eu cymryd?

Nid yw Pwyllgor Ymchwilio’n cymryd unrhyw ‘gamau’ fel y cyfryw, ond gall wneud un o’r penderfyniadau canlynol:

  • penderfynu bod gan berson cofrestredig ‘achos i’w ateb’. Os mai felly y mae, caiff y gŵyn ei throsglwyddo i wrandawiad cyhoeddus gan Bwyllgor Priodoldeb i Ymarfer
  • penderfynu nad oes gan y person cofrestredig ‘achos i’w ateb’. Os mai felly y mae, ni fydd CGA yn cymryd unrhyw gamau pellach

Os bydd Pwyllgor Ymchwilio’n penderfynu nad oes gan y person cofrestredig ‘achos i’w ateb’, ni fydd y gŵyn yn mynd ymhellach.

Nid wyf yn fodlon bod y Pwyllgor Ymchwilio wedi penderfynu nad oes gan y person cofrestredig achos i’w ateb. Gaf i apelio?

Na chewch. Nid oes proses apelio ac ni all CGA ystyried yr un gŵyn fwy nag unwaith. Mae penderfyniad y Pwyllgor yn derfynol.

Am y rheswm hwn yn unig, mae’n bwysig eich bod yn dilyn yr arweiniad uchod yn ofalus.

Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu Gorffennaf 2024

Adrannau perthnasol y Rheolau yw Rheol 5(2), Rheol 6, Rheol 7 a Rheol 8.

Bydd CGA yn ysgrifennu atoch pan fydd wedi dod i benderfyniad am eich cwyn.