Amy Jane Cunniffe - 16 Ionawr 2024
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 16 Ionawr 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol a throsedd berthnasol wedi ei brofi yn erbyn gweithiwr cymorth dysgu, Amy Jane Cunniffe.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi:
- tra ei bod wedi ei chyflogi fel cynorthwyydd addysgu, bod Miss Cunniffe, ar 31 Hydref 2022, wedi gyrru car o dan ddylanwad alcohol, wnaeth roi eraill mewn perygl.
- ar 15 Tachwedd 2022, cafodd Miss Cunniffe euogfarn o fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi (gyrru neu geisio gyrru) ar 31 Hydref 2022, drwy fynd yn erbyn adran 7(6) Deddf Traffig y Ffyrdd 1988. O ganlyniad i i'r drosedd hon, fe roddwyd gorchymyn gymunedol am 12 mis, gyda gofyniad i weithio'n ddi-dâl, gofyniad gweithgarwch adfer, a'igwahardd rhag gyrru am 36 mis.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd (heb amodau) ar gofrestriad Miss Cunniffe fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol am gyfnod o 12 mis (rhwng 16 Ionawr 2024 a 16 Ionawr 2025). O'r herwydd ni fydd Miss Cunniffe yn gallu gweithio fel person cofrestredig (gweithiwr cymorth dysgu ysgol) mewn ysgol a gynhelir, neu ysgol arbennig na chynhelir yng Nghymru am gyfnod y Gorchymyn Gwahardd.
Mae gan Miss Cunniffe yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.