CGA / EWC

About us banner
Papur ymchwil newydd yn arddangos buddion ymarfer myfyriol
Papur ymchwil newydd yn arddangos buddion ymarfer myfyriol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) yn falch o gyhoeddi bod papur ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd, " Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth ", wedi cael ei ryddhau.

Mae’r papur, a ysgrifennwyd gan yr Athro Carol Campbell a Maeva Ceau o Ontario Institute for Studies in Education, Prifysgol Toronto, yn cynnig adolygiad manwl sy’n archwilio cysyniad ymarfer myfyriol, ei effeithiau arwyddocaol ar addysg, a’r arferion arwain sy’n ei gefnogi a’i annog. Hefyd, mae’n amlygu polisïau, fframweithiau a chyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n meithrin ymarfer myfyriol, gyda ffocws ar system addysg Cymru.

Bwriedir i’r ymchwil helpu i lywio a chynorthwyo cofrestreion CGA i gydymffurfio â’r egwyddorion allweddol o fewn y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth, dealltwriaeth a dysgu proffesiynol.

Wrth roi sylw ar “fframwaith cenedlaethol datblygedig ar gyfer ymarfer myfyriol” Cymru, nododd Campbell a Caeu bwysigrwydd sefydlu a chynnal offer ac adnoddau sy’n cefnogi a sgaffaldio ymarfer myfyriol effeithiol.

Wrth lansio’r papur, meddai Bethan Holliday-Stacey, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol, Achredu a Pholisi CGA, “Mae’r ymchwil hon yn waith darllen hanfodol i bob addysgwr sy’n ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus a mynd ar drywydd rhagoriaeth mewn addysg. Mae’n darparu dadansoddiad manwl o ymarfer myfyriol, gyda thystiolaeth gadarn yn ategu hynny, ac mae’n cynnig strategaethau ac offer ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ym mhob lleoliad addysgol.

“Un offeryn o’r fath a nodir yn y papur yw’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae’r PDP, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gennym ni yma yn CGA, yn offeryn dwyieithog, hyblyg, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gofnodi’n gyfrinachol a rhannu profiadau dysgu proffesiynol ffurfiol ac anffurfiol.

“Rydym ni’n gwahodd ein holl gofrestreion i lawrlwytho’r papur i ennill dealltwriaeth fanylach o sut y gall ymarfer myfyriol gael ei integreiddio i’w harferion proffesiynol, a thrawsnewid eu hymarfer o ddydd i ddydd.”

Bydd yr Athro Carol Campbell hefyd yn cynnal Dosbarth Meistr CGA a digwyddiad Datgloi Arweinyddiaeth NAEL ar y cyd ym mis Mehefin i dreiddio’n ddyfnach i ganfyddiadau’r papur ac i arwain trafodaeth ar ddysgu proffesiynol a gwelliant addysgol. Gall holl gofrestreion CGA a rhanddeiliaid ehangach addysg gofrestru yn rhad ac am ddim ar gyfer y digwyddiad hwn.

Mae crynodeb gweithredol ar gael i’w ddarllen ochr yn ochr â’r papur ymchwil llawn, ar wefan CGA.