Adrian Ferguson - 20 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a oedd yn eistedd o bell ar 18, 19 ac 20 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi’i brofi yn erbyn y gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol a’r athro addysg bellach, Adrian Ferguson.
Canfu’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer fod yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod Mr Ferguson:
- rhwng mis Ebrill 2020 a 4 Tachwedd 2020, mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd (“yr Ysgol”):
- wedi ticio “na” ar ei ffurflen gais pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw euogfarnau, gan gynnwys materion a oedd yn yr arfaeth ac nad oeddent wedi cael eu datrys ar yr adeg ysgrifennu, er bod ymchwiliad heddlu yn parhau yn ei erbyn ar y pryd;
- wedi darparu unigolyn fel canolwr a heb ddatgelu i’r Ysgol ei fod ef hefyd dan amheuaeth yn yr ymchwiliad heddlu yn ei erbyn;
- heb roi gwybod i uwch reolwyr yr Ysgol am yr ymchwiliad heddlu a oedd yn parhau yn ei erbyn tan 4 Tachwedd 2020.
- ar 27 Ebrill 2020, wedi cyflwyno ffurflen gais Cyngor Caerdydd ar gyfer swydd Athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd. Wrth gwblhau’r adran “Addysg Uwch a Hyfforddiant”, datganodd yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau canlynol:
- “MA Hanes” o “Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007; a
- “BA Anrh Hanes” o “Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007; a
- "TAR Add” mewn “Addysg Gorfforol Uwchradd gyda SAC – TAR”, o Brifysgol Casnewydd, Campws Caerllion”, rhwng 20 Medi 2003 a 18 Mai 2007.
- ar 16 Awst 2021, wedi cyflwyno ffurflen gais i Ymddiriedolaeth Coleg De Swydd Gaerloyw a Stroud ar gyfer swydd Goruchwyliwr Cyflenwi yn Ysgol Uwchradd Forest. Wrth gwblhau’r adran “Cymwysterau”, datganodd yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau canlynol:
- TAR mewn “Addysg Uwchradd” o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 14 Medi 2008; ac
- MA mewn Hanes o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 14 Medi 2008; a
- BA (Anrh) mewn Hanes o “Gasnewydd, Caerllion” oddeutu 7 Medi 2007.
- mewn perthynas â’i gais yn honiad 3 ar gyfer swydd yng Ngholeg De Swydd Gaerloyw a Stroud, heb gynnwys Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn ei gais fel cyflogwr blaenorol.
- mewn perthynas â’i gais yn honiad 3, wedi cyflwyno copi i Ymddiriedolaeth De Swydd Gaerloyw a Stroud o lythyr canlyniad proses ddisgyblu cyflogwr blaenorol, yr oedd wedi’i ddiwygio ac yr oedd yn gwybod ei fod wedi cael ei ddiwygio:
- i newid “rhybudd ysgrifenedig cyntaf” i “rybudd llafar”; ac
- i ddileu pum paragraff o ganfyddiadau’r Panel Disgyblu.
- rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mai 2023, wedi datgan yn anghywir bod ganddo statws athro cymwysedig (SAC) pan nad oedd hyn yn gywir, a heb egluro nad oedd ganddo SAC:
- yn ei gais yn honiad 2; ac
- yn ystod ei gyflogaeth gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd; ac
- wrth gyfathrebu â Chyngor y Gweithlu Addysg ar neu o gwmpas 24 Ionawr 2020 a 12 Mai 2023.
- yn ei gais/ceisiadau i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg dyddiedig 22 Ionawr 2020, 23 Ionawr 2020 a 24 Ionawr 2020, wrth gwblhau’r adran “Cymhwyster/Cymwysterau”, wedi datgan yn anghywir ei fod wedi cwblhau un neu fwy o’r cyrsiau hyn:
- Gradd Meistr Gwyddoniaeth (MSc) mewn Hanes, a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd;
- BA (Anrh) gyda TAR ymsang Astudiaethau Academaidd mewn Addysg, a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd;
- Baglor Gwyddoniaeth (BSc) gyda SAC mewn Hanes, a ddyfarnwyd yn 2007 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd; a
- Thystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Bellach), a ddyfarnwyd yn 2008 o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.
- rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mai 2023, wedi cyflwyno un neu fwy o’r tystysgrifau canlynol i Gyngor y Gweithlu Addysg yr oedd yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod yn rhesymol, nad oeddent yn ddilys:
- Ar 24 Ionawr 2020, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Brifysgol Cymru, Casnewydd, dyddiedig mis Medi 2008, yn rhoi Tystysgrif Addysg i Raddedigion; ac
- Ar 24 Ionawr 2020, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Brifysgol Cymru, Casnewydd, dyddiedig 14 Medi 2007, yn ymwneud â Baglor Gwyddoniaeth mewn Hanes; ac
- Ar 20 Rhagfyr 2021 a 12 Mai 2023, tystysgrif yr honnwyd ei bod o’r Adran Addysg, yn cadarnhau ei fod wedi cyflawni statws athro cymwysedig (SAC) ar 17 Medi 2008; ac
- Ar 20 Rhagfyr 2021, tystysgrif yr honnwyd ei bod o Edexcel, dyddiedig mis Awst 2014, yn ymwneud ag “Aseswyr Addysg (Fframwaith Credydau a Chymwysterau)” yng Ngholeg Western.
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor fod ymddygiad Mr Ferguson ym mharagraffau 1 i 8 uchod (heblaw am 1(b)) yn gamarweiniol ac yn anonest.
Penderfynodd y Pwyllgor hefyd fod ymddygiad Mr Ferguson ym mharagraffau 1 i 8 uchod yn dangos diffyg uniondeb.
Gosododd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Orchymyn Gwahardd, gan ddileu Mr Ferguson o’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ac athro addysg bellach am gyfnod amhenodol. Penderfynodd hefyd na chaiff Mr Ferguson wneud cais i gael ei adfer i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg cyn i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio. Os na fydd Mr Ferguson yn gwneud cais llwyddiannus am gymhwysedd i gael ei adfer i’r Gofrestr ar ôl 20 Mawrth 2029, bydd yn aros wedi’i wahardd am gyfnod amhenodol.
Mae gan Mr Ferguson hawl i apelio i’r Uchel Lys o fewn 28 niwrnod.