Ceri Ann Ridge - 13 Mawrth 2024
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2024
Mae Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), oedd yn eistedd yn rhithiol ar 12 ac 13 Mawrth 2024, wedi canfod bod honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol wedi ei brofi yn erbyn yr athro addysg bellach, a'r gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach, Ceri Ann RIDGE.
Canfu'r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer bod yr holiadau canlynol wedi eu profi, bod Miss Ridge:
- Ar neu o gwmpas 20 Mawrth 2023
- wedi gweiddi ar Fyfyriwr A trwy ffenest eu car
- wedi ceisio tynnu allweddi car Myfyriwr A o system danio eu car
- wedi pwyntio eu bys yn agos i wyneb Myfyriwr A
- wedi taflu chwip ceffyl at gar Myfyriwr A
Ar ôl gwneud y canfyddiadau hyn, penderfynodd y Pwyllgor bod ymddygiad Miss Ridge yn amhriodol ac yn frawychus.
Rhoddodd y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer Gerydd ar gofrestriad Miss Ridge fel athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach am gyfnod o ddwy flynedd (rhwng 13 Mawrth 2024 hyd 13 Mawrth 2026). O'r herwydd, bydd Miss Ridge yn gallu gweithio fel person cofrestredig (athro addysg bellach a gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach) sy'n darparu gwasanaethau penodol mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.
Mae gan Miss Ridge yr hawl i apelio i'r Uchel Lys o fewn 28 diwrnod.