CGA / EWC

About us banner
Bar offer digidol i helpu creu profiad hygyrch
Bar offer digidol i helpu creu profiad hygyrch

Oeddech chi'n gwybod bod gyda ni far offer ReachDeck ar ein gwefan?

Ond pam fod hyn yn bwysig?

Yn fyd-eang, mae gan un ym mhob saith o bobl anabledd. Ar gyfer nifer, mae hyn yn golygu eu bod yn profi rhwystrau ar y we. Er enghraifft, efallai bydd pobl â nam golwg yn cael trafferth os yw gwybodaeth ar gael ar ffurf testun yn unig. Ac efallai bydd pobl ag anableddau deallusol yn ei chael hi'n anodd darllen gwybodaeth ar dudalen we sy'n llawn gwybodaeth. Gall hyn gael effaith ar eu gallu i bori, prynu, a chael mynediad at gynnwys neu wasanaethau ar-lein.

Yn fwy na hyn, dim ond un ym mhob deg person sy'n gallu cael mynediad at dechnoleg gynorthwyol.

Drwy ychwanegu bar offer ReachDeck i'n gwefan, ry'n ni'n rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r bobl sydd ei angen. Gall ein hymwelwyr ddewis gwrando ar y cynnwys wedi ei ddarllen, tynnu cynnwys sy'n tynnu sylw, neu ychwanegu arlliw i'r sgrin gyda phanel darllen, i'w helpu i ganolbwyntio.

Rhowch dro iddo

I lansio bar offer ReachDeck, dewiswch yr eicon ar frig gwefan CGA (blwch petryal glas gyda chorff gwyn oddi mewn). I glywed testun wedi ei ddarllen, dewiswch yr eicon cyntaf a hofrwch eich llygoden dros unrhyw destun. O ddyfais sgrin cyffwrdd, bydd angen i chi ddewis y testun i'w glywed.

Nawr, rhowch arlliw ar y sgrin gan ddewis yr eicon llygad. I archwilio mwy, dewiswch yr eicon marc cwestiwn (?) i ddarganfod beth mae pob nodwedd ar y bar offer yn ei gynnig.

: bar offer ReachDeck gyda nodweddion gan gynnwys testun-i-siarad, chwydu testun, a masg sgrin

Rydym yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. ar y wefan, gan gynnwys ei hygyrchedd.