Diogelu'r proffesiwn a'r cyhoedd
Atgoffwch eich staff
Mae'n bwysig iawn bod manylion eich staff ar ein cofrestr yn gyfredol. Dylech eu hannog i fewngofnodi i'w cyfrif FyCGA i wneud yn siŵr bod y meysydd i gyd yn gyfredol.
Edrych tua'r tymor newydd
Os ydych yn neu wedi penodi staff i ddechrau yn nhymor yr hydref, fel cyflogwr, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru cyn iddynt ddechrau gweithio. Os nad ydynt wedi cofrestru eto, mae digon o amser cyn i'r tymor newydd ddechau. Gallant wneud ar ein gwefan.
Astudiaethau achos PiY
Yn ein hastudiaeth achos Priodoldeb i Ymarfer (PiY) diweddaraf, rydym yn edrych ar enghraifft o gofrestrai yn cael eu gwahardd, ar ôl profi achos o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, oherwydd bod o dan ddylanwad alcohol yn y gwaith. Mae'r astudiaethau achos yn seiliedig ar enghreifftiau go iawn, ac wedi eu creu i roi pwyntiau dysgu gwerthfawr i gofrestreion gynnal a chydymffurfio gyda'r Cod, a diogelu eu cofrestriad.
Dod i wrandawiad priodoldeb i ymarfer
Caiff y mwyafrif o'n gwrandawiadau eu clywed yn gyhoeddus, sy'n golygu y gallwch ymuno fel arsyllwr. Mae gwybodaeth ar wrandawiadau i ddod a sut i fynychu ar dudalennau priodoldeb i ymarfer.
Diweddaru'r Cod
Yn dilyn y cyfnod ymgynghori yn gynharach eleni, ry'n ni wrthi'n diweddaru ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Byddwn yn ei gyhoeddi ym mis Medi, a byddwch yn rhoi gwybod i chi pan fydd wedi ei gyhoeddi.
Diweddariadau'r Cyngor
Adroddiadau blynyddol
Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiadau blynyddol cyn bo hir, gan gynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024/25, sy'n gosod sut mae CGA wedi perfformio yn erbyn ei amcanion strategol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi Ystadegau'r Gweithlu Addysg blynyddol, adroddiad blynyddol Priodoldeb i Ymarfer, adroddiad monitro safonau'r Gymraeg, a'n hadroddiad cydraddoldeb blynyddol, felly cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Llongyfarchiadau i ddeiliaid newydd y MAGI
Llongyfarchiadau i Mind yng Ngwent a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru am eu gwobrau efydd cyntaf, ac i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru am ailachrediad eu gwobr efydd. Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ac am roi nôl, ry'n ni wastad yn chwilio am aseswyr marc ansawdd newydd. Mwy o wybodaeth a chyfle i wneud cais ar ein gwefan.
Defnyddio'r PDP i gefnogi eich cyflogeion
Rydym yn parhau i weithio gyda nifer o sefydliadau, gan ddatblygu templedi yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) i gefnogi datblygiad proffesiynol a myfyrio ymarferwyr. Mwy o wybodaeth am beth all y PDP wneud i chi a'ch cyflogeion.
Digwyddiadau'r haf
Efallai eich bod wedi ein gweld ni mewn rhai digwyddiadau dros yr haf eisoes - Urdd, Pride, Mela, i enwi ond tri! Mae mwy o gyfleoedd i ddod i siarad gyda ni yn yr wythnosau nesaf gan gynnwys yn y Sioe Fawr ym mis Gorffennaf, a'r Eisteddfod genedlaethol yn Wrecsam ym mis Awst. Byddwn ni yna, gydag Addysgwyr Cymru, felly dewch i ddweud helo.
Dosbarth meistr: yr ymennydd sy'n datblygu mewn cyd-destun addysgol modern
Os wnaethoch chi neu'ch staff golli ein digwyddiad dosbarth meistr ym mis Mai, mae recordiad o'r digwyddiad ar gael nawr ar ein sianel YouTube. Fe wnaethom ni hefyd siarad gyda Dr Dean Burnett mewn pennod arbennig i'n podlediad Sgwrsio gyda CGA, i ateb y cwestiynau na wnaethom ni gael amser i'w holi yn ystod y digwyddiad.
Mae nifer o lyfrau Dean ar gael i gofrestreion drwy EBSCO. Anogwch eich staff i ddarllen rhifyn mwyaf diweddar Meddwl Mawr, i gael gwybodaeth am y llyfrau sydd ar gael.
Hysbysu polisi
Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg
Bydd rhifyn 2025 o ystadegau'r gweithlu addysg yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd Gorffennaf. Caiff ei greu drwy ddefnyddio data o'n Cofrestr o Ymarferwyr Addysg.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi canlyniadau AGA dros yr haf. Byddwch yn gallu gweld y canlyniadau pan fyddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Byddwn yn cynnal sesiwn briffio ar yr ystadegau yn yr hydref. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a'r wefan am fwy o wybodaeth cyn bo hir.
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg
Fe wnaethom ddarparu tystiolaeth yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg ddechrau mis Mehefin, ar recriwtio a dargadw athrawon. Mae gyda ni fynediad at fewnwelediadau a data unigryw yn y maes yma i helpu rhoi darlun clir o'r sefyllfa yng Nghymru.
Rhag ofn i chi ei fethu
Gwahodd ni
Oeddech chi'n gwybod ein bod ni'n cynnal hyfforddiant a gweithdai ledled Cymru i'n cofrestreion a'n rhanddeiliaid? Gallwn ddod atoch chi am sesiynau ad-hoc ar gyfer eich staff, llywodraethwyr, sefydliadau hyfforddi, neu gymryd rhan mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau yr ydych yn eu trefnu. Mwy o wybodaeth, a gwneud cais i ni ddod i wneud sesiwn.
Wedi colli digwyddiad?
Mae gyda ni gyfoeth o recordiadau ar ein sianel YouTube o ddigwyddiadau'r gorffennol, gan gynnwys ein darlithoedd Siarad yn Broffesiynol, Dosbarthiadau Meistr, digwyddiadau Eich CGA, briffiadau polisi, a llawer mwy. Maent oll ar gael i'w gwylio ar-alw, ar adeg sy'n gyfleus i chi a'ch staff.