Cofrestru a rheoleiddio
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Rydym wedi lansio'r cyntaf o'n cyfres o astudiaethau achos yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn, rydym yn ceisio rhoi pwyntiau dysgu gwerthfawr i helpu cofrestreion gydymffurfio â'r Cod, cynnal y safonau uchaf yn eu proffesiwn, a diogelu eu cofrestriad.
Rydym yn chwilio am aelodau i'n panel priodoldeb i ymarfer
Cyn bo hir, byddwn yn chwilio am gofrestreion i fod yn rhan o'n panel priodoldeb i ymarfer. Mae aelodau panel yn chwarae rôl bwysig yn cynnal safonau proffesiynol ymddygiad ac ymarfer, tra'n diogelu buddion dysgwyr, rheini/gwarcheidwaid a'r cyhoedd.
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol a'r wefan am fwy o wybodaeth cyn bo hir.
Sefydlu
Ydych chi'n cyflogi athro newydd gymhwyso (ANG)?
Cofiwch fod angen i chi gyflwyno'r ffurflen hysbysu sefydlu i ni. Bydd cyflwyno'r ffurflen yn golygu fod pawb sy'n rhan o sefydlu'r ANG yn cael mynediad i'r proffil ar-lein, a sicrhau bod yr ANG yn cael mentor sefydlu.
Diweddariadau'r Cyngor
Cyfarfod nesaf y Cyngor
Bydd y cyfarfod nesaf y Cyngor ddydd Iau 14 Tachwedd 2024.
Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys cofrestreion, arsylwi cyfarfod y Cyngor. Os hoffech ddod i gyfarfod, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Defnyddio'r PDP i gefnogi eich staff
Rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau gwahanol i ddatblygu adnoddau wedi eu teilwra yn y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP), i gefnogi cofrestreion gyda'u dysgu proffesiynol a'u myfyrio.
Mae gyda ni e-daflen newydd sbon, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru
Llongyfarchiadau i Wasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd ar eu gwobr arian MAGI, a Gwasanaeth Ieuenctid Evolve Cyngor Abertawe, ar eu gwobr efydd.
Rydym wastad yn chwilio am aseswyr MAGI. Maent yn chwarae rôl hanfodol yn helpu grwpiau a sefydliadau i adnabod, mynegi, a dathlu eu gwaith gyda phobl ifanc. Os ydych yn gwybod am rywun fyddai â diddordeb, cyfeiriwch nhw at ein gwefan.
Pennod bonws arbennig o Sgwrsio gyda CGA
Rydym wedi rhyddhau pennod bonws o'n podlediad, sy'n dilyn o'n pennod ar les. Mae gan Graeme Jones o Ysgol Gynradd Palmerston gyngor i bawb ar sut i wella eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain, a dysgwyr a chydweithwyr. Gwrandewch ar y bennod bonws nawr.
Hysbysu polisi
Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi ein Hystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2024. Am y tro cyntaf eleni, mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth dysgu sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol a cholegau.
Byddwn yn cynnal briffiad ar 15 Hydref 2024 i roi trosolwg o'r data unigryw a chynhwysfawr yma, gyda ffocws penodol ar y prif dueddiadau. Cadwch eich lle am ddim nawr.
Rhag ofn i chi ei fethu
Adroddiadau blynyddol
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau blynyddol, gan gynnwys ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24. Gallwch ddarllen yr adroddiadau i gyd ar ein gwefan.
Gwahodd ni i sesiwn
Oeddech chi'n gwybod eich bod yn gallu gofyn i ni ddod i siarad gyda'ch staff am nifer o bynciau gan gynnwys pwy ydym ni, beth ry'n ni'n ei wneud, y Cod, a'r PDP? Llenwch y ffurflen ar ein gwefan i gysylltu gyda ni.
Canlyniadau myfyrwyr AGA
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi data ar addysg gychwynnol athrawon (AGA) ar gyfer 2023-24. Mae'r ystadegau llawn ar ein gwefan.