Diogelu’r proffesiwn a'r cyhoedd
Astudiaethau achos PiY
Drwy edrych ar achosion go-iawn fel hwn, gall cofrestreion ddeall yn well sut i gynnal safonau'r Cod, a chynnal ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein proffesiwn.
Data cofrestreion
Mae'n hanfodol bod y data sydd gyda ni ar gyfer cofrestreion yn gyfoes ac yn gywir. Fe wnaethom gysylltu gyda chofrestreion i'w hatgoffa o hyn yn ddiweddar.
Os ydych yn cyflogi cofrestreion, rydym yn eich annog i'w hatgoffa i fewngofnodi i'w cyfrif FyCGA, i wirio yw eu manylion yn gywir, ac i'w diweddaru os nad ydynt.
Diweddariadau'r Cyngor
Cadeirydd newydd y Cyngor
Llongyfarchiadau i Geraint Williams sydd wedi ei ethol yn Gadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg. Diolch o galon i'r cyn-gadeirydd erbyn hyn, Eithne Hughes, am ei harweinyddiaeth, ymroddiad, a'r cyfraniad gwerthfawr mae hi wedi gwneud i'r Cyngor a gwaith ehangach CGA.
Canllawiau, adnoddau, a gwasanaethau proffesiynol
Adnoddau ar-alw
Rydym wedi diweddaru dwy o'n gweminarau, Eich CGA: rheoleiddio proffesiynol a rheoleiddio - beth mae'n ei olygu i chi, a Eich CGA: Y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae'r fideos newydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf o ran Cofrestr CGA, ac mae'n adlewyrchu newidiadau yn dilyn cyhoeddi Cod newydd.
Cofiwch rannu'r diweddariadau pwysig yma gyda'ch cofrestreion yn eich lleoliad.
Gallwn hefyd ddod i'ch lleoliad i roi cyflwyniadau ar nifer o bynciau gwahanol. Ewch i wefan CGA am fwy o wybodaeth ac i'n gwahodd ni i'ch digwyddiad.
Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI)
Wyddech chi fod eich sefydliad yn gallu cael ei gydnabod am y gwaith gwych ry'ch chi'n ei wneud gyda phobl ifanc? Mae MAGI yn cefnogi sefydliadau ac yn cydnabod safonau'n gwella yn y sector. Dysgu mwy am y MAGI, a sut gallwch gofrestru eich diddordeb i'ch asesu.
Hysbysu polisi
Mewnwelediadau data
Mae ein Cofrestr yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth unigryw, sy'n hanfodol i'n helpu ni i ddeall sut mae'r gweithlu addysg yn esblygu, a ble mae angen mwy o ffocws. Mae ein mewnwelediad data diweddaraf yn edrych ar nifer o bynciau gwahanol, gan gynnwys arweinwyr ysgol, gallu'r Gymraeg ymysg athrawon ysgol, recriwtio a dargadw ar gyfer saith o'n categorïau, a chymwysterau o ran gweithwyr cymorth dysgu ysgol. Gallwch ddarllen y rhain, a mewnwelediadau eraill ar ein gwefan.
Digwyddiadau
Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru
Ym mis Hydref, fe wnaethom gynnal digwyddiad yn amlygu prif dueddiadau'r data eleni. Os wnaethoch chi ei golli, neu eich bod am ei wylio eto, mae ar gael nawr ar ein sianel YouTube.
Recriwtio a dargadw: tueddiadau, heriau a llwybrau polisi
Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal digwyddiad yn edrych ar recriwtio a dargadw o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru, gyda mewnbwn gan banel o arbenigwyr, gan gynnwys tri Phennaeth Cymraeg. Bydd y recordiad ar gael yn y flwyddyn newydd, felly cadwch lygad ar ein sianel cyfryngau cymdeithasol, ac mewn cylchlythyron y dyfodol. Yn y cyfamser, gallwch weld y cyflwyniad a ddefnyddiwyd ar ein gwefan.
Rhag ofn i chi ei fethu
Oriau agor dros y Nadolig
Bydd swyddfa CGA ar gau i gofrestreion, a'r llinellau ffôn ar gau, o 16:00 ddydd Gwener 19 Rhagfyr 2025, hyd 09:00 ddydd Llun 5 Ionawr 2026. Bydd ein gwefan ar gael yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys FyCGA, a'r PDP.
Defnyddia dy Gymraeg
Rydym yn cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg unwaith eto eleni. Mae hwn yn gyfle i ni ddangos sut allwch chi, fel rhanddeiliaid, gyfathrebu gyda ni yn yr iaith o'ch dewis chi, yn ogystal â sut ydym yn annog defnyddio'r Gymraeg yn fewnol. Gallwch weld beth rydym yn ei wneud ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn falch bod ein holl wasanaethau ac anodau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn eich annog i gyfathrebu gyda ni yn eich dewis iaith.
