CGA / EWC

About us banner
Dosbarth meistr 2024: Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol
Dosbarth meistr 2024: Arwain ymarfer myfyriol – o dystiolaeth i weithredu effeithiol

Dydd Mawrth 18 Mehefin, 16:00-17:30, Zoom

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad ar y cyd Dosbarth Meistr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Datgloi Arweinyddiaeth Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, lle y bydd Carol Campbell o Brifysgol Glasgow yn arwain trafodaeth ar ddysgu proffesiynol a gwelliant addysgol. Fel un o awduron Arwain Ymarfer Myfyriol – Adolygu’r Dystiolaeth, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i ymgysylltu â chydweithwyr ledled Cymru ynglŷn â nodweddion ymarfer myfyriol effeithiol a’r amodau sy’n angenrheidiol ar ei gyfer.

Mae’r syniad o ymarfer myfyriol a’r defnydd ohono yn rhan hen sefydledig ac annatod o fywydau a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg yng Nghymru. Trwy ddefnyddio tystiolaeth ryngwladol o fewn y sector addysg a’r tu allan iddo, yn ogystal â phrofiadau a safbwyntiau cyfranogwyr, byddwn yn archwilio’r cwestiwn canolog “beth y mae ei angen nawr a nesaf i sicrhau bod ymarfer effeithiol yn cael ei gefnogi a’i ymsefydlu yng Nghymru?”. Mae arweinwyr ac arweinyddiaeth, ar bob lefel, sy’n ymwneud ag ymarfer myfyriol, ei annog, a sicrhau cefnogaeth iddo er budd y gweithlu addysg, dysgwyr, a’u cymunedau, yn allweddol i hyn.

Bydd Carol yn trafod y cysyniad, y nodweddion, a’r amodau sy’n ofynnol ar gyfer ymarferion myfyriol effeithiol i gefnogi buddion cadarnhaol i unigolion sy’n ymwneud â’u hymarfer myfyriol eu hunain, ymarfer myfyriol ar y cyd, ac arwain ymarfer myfyriol.

Mae’r dystiolaeth ryngwladol yn dangos yn glir fod ymarfer myfyriol, o’i ddefnyddio’n effeithiol, yn gallu bod o fudd i weithwyr proffesiynol, dysgwyr, a gwelliannau addysgol i sefydliadau a systemau. Mae gweithlu addysg a dysgwyr Cymru yn haeddu dim llai.

Mae’r digwyddiad hwn yn addas i’r holl gofrestreion, arweinwyr addysg, a rhanddeiliaid addysg ehangach.

Archebwch eich tocyn am ddim nawr.

Yr Athro Carol Campbell

Mae Dr. Carol Campbell yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Glasgow. Mae hefyd yn Athro Gwadd Arweinyddiaeth a Newid Addysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac yn Athro (penodiad statws yn unig) ym Mhrifysgol Toronto, Canada.

Cyn dychwelyd i’r Alban yn barhaol yn 2024, roedd Carol yn Athro Arweinyddiaeth a Newid Addysgol a Chadeirydd Cyswllt yr Adran Arweinyddiaeth, Addysg Uwch ac Addysg Oedolion yn Sefydliad Astudiaethau Addysg Ontario, Prifysgol Toronto.

Mae ei gwaith yn ymwneud â newid addysgol ar raddfa fawr, gwella’r system addysg ac ysgolion, gwaith y proffesiwn addysg, dysgu proffesiynol, a datblygu arweinyddiaeth.

Ar hyn o bryd, mae Carol yn arwain astudiaeth ymchwil ryngwladol ar gyfer Education International sy’n ymwneud â chylchoedd dysgu a arweinir gan athrawon ar gyfer defnydd athrawon o asesu ffurfiannol mewn saith gwlad.

Mae Carol hefyd yn aelod o Gyngor Rhyngwladol y Cynghorwyr Addysg ar gyfer Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth yr Alban. Yn ystod 2022-23, gwasanaethodd fel cydhwylusydd annibynnol (gyda’r Athro Alma Harris) ar gyfer y Drafodaeth Genedlaethol ar y weledigaeth ar gyfer addysg yn yr Alban yn y dyfodol – yr ymgysylltiad cyhoeddus mwyaf i’w gynnal erioed ar addysg yn yr Alban.

Yn ddiweddar, cafodd ei chomisiynu i ddarparu papur cefndir ar angenrheidrwydd “dyngarwch” ar gyfer Panel Lefel Uchel y Cenhedloedd Unedig ar y Proffesiwn Addysgu.

Yn 2020, derbyniodd Carol wobr Eiriolaeth Addysg Gyhoeddus Ffederasiwn Athrawon Canada am hirwasanaeth ymroddedig, yn ogystal â chyfraniadau mawr er budd addysg.