CGA / EWC

About us banner
Gweithwyr cymorth dysgu yng Nghymru: tueddiadau, heriau, a llwybrau polisi
Gweithwyr cymorth dysgu yng Nghymru: tueddiadau, heriau, a llwybrau polisi

26 Tachwedd 11:00-12:30

Ymunwch â ni am ddigwyddiad briffio polisi, lle byddwn yn taflu goleuni ar rôl hanfodol gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ledled Cymru.

Byddwn yn arddangos y data diweddaraf o Gofrestr CGA, ac yn archwilio'r materion sy'n effeithio gweithwyr cymorth. Bydd y digwyddiad yn cynnwys pynciau allweddol fel recriwtio a dargadw, dosbarthiad, gallu iaith Gymraeg, amrywiaeth y gweithlu, a dysgu proffesiynol, yn ogystal â rhai o'r heriau a wynebir gan y gweithlu.

Yn dilyn y prif gyflwyniad, byddwn yn croesawu panel o arbenigwyr, sy'n cynnwys gweithwyr cymorth dysgu, gydag arbenigedd yn y sector uwchradd, a gydag anghenion addysgol arbennig, i roi eu barn onest nhw am eu rôl o fewn eu sefydliadau, ac yn fwy cyffredinol ar draws Cymru.


Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn cwestiwn ac ateb, gan roi'r cyfle i chi i holi cwestiynau am y data, ein polisi ni, neu i'r panel.
Mae hwn yn gyfle gwych i wella eich gwybodaeth, ac i gyfrannu at y sgwrs ynghylch cynyddu rôl gweithwyr cymorth mewn addysg yng Nghymru. Mae'n addas ar gyfer arweinwyr dysgu ac uwch staff, gwneuthurwyr polisi, a chofrestreion CGA.

Cadwch eich lle am ddim nawr.