Ar nos Lun, 6 Mehefin 2016, cynhaliwyd digwyddiad cyntaf CGA mewn cydweithrediad â'r Brifysgol Agored yng Nghymru, 'Siarad yn Broffesiynol gyda'r Athro John Furlong a'r Athro Graham Donaldson'. Yn dilyn cyflwyniad gan y newyddiadurwraig Catrin Haf Jones, fe gyflwynodd y ddau Athro yn eu tro eu barn ar yr heriau sy'n wynebu'r system addysg yng Nghymru a beth yw dyfodol polisi addysg yng Nghymru.
Yr Athro Graham Donaldson oedd awdur 'Dyfodol Llwyddiannus', sef adolygiad annibynnol o gwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru.
Gallwch ddarllen cyflwyniad Graham Donaldson yma .
Yr Athro John Furlong oedd awdur yr adroddiad 'Addysgu Athrawon Yfory; opsiynau ar gyfer dyfodol hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2015.
Gallwch ddarllen cyflwyniad John Furlong yma .
Mae linc ar gyfer fideo o'r noson yma.
Mae fideo o’r digwyddiad yma bellach ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube.
Os ydych chi ar Twitter, gallwch gael blas ar y noson drwy chwilio am yr hashnod #siaradproff16
Dyma ymateb yr Athro Ken Jones i’r hyn a glywodd yn ‘Siarad yn Broffesiynol 2016’