Siarad yn Broffesiynol 2023 gyda Michael Fullan: trawsnewid systemau addysg o'r gwaelod lan
18 Ionawr 2023, 16:00-17:30
Michael Fullan, yr arbenigwr byd-enwog ar ddiwygio addysg oedd ein siaradwr gwadd ar gyfer Siarad yn Broffesiynol 2023.
Yn ei araith, fe wnaeth Michael drafod canfyddiadau ei ymchwil arloesol a wnaed mewn partneriaeth agos gydag arweinwyr addysg o bob cwr o'r byd.
Trwy gydol y digwyddiad, fe wnaeth archwilio'r cysyniad fod plant a phobl ifanc yn gallu bod yn 'newidwyr i'r dyfodol', a sut gall arweinwyr fod yn effeithiol ar adegau cymhleth. Rhoddodd esiamplau o newid llwyddiannus ar lefelau ysgol a chymunedol, ynghyd â'r goblygiadau posib i unrhyw arweinydd eu hystyried.
Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb fywiog, wedi ei lywio gan yr ymchwilydd a'r awdur o fri, yr Athro Alma Harris.
Mae fideo o’r digwyddiad yma bellach ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube.