Trosolwg
Mae’r ymgynghoriad hwn, yn unol â’r gofyniad statudol yn Neddf Addysg (Cymru) 2014, yn ceisio barn cofrestreion a rhanddeiliaid CGA, a’r cyhoedd, am ddrafft diwygiedig o’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol i gofrestreion.
Sut i ymateb
Gellir ymateb i’r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod, neu trwy lawrlwytho’r ffurflen hon y gellir ei golygu a’i hanfon drwy e-bostio i priodoldebiymarfer@cga.cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 12:00 ar 28 Mawrth 2025.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Susan Street, Pennaeth Priodoldeb i Ymarfer, drwy’r e-bost, neu dros y ffôn ar 029 2046 0099.
Gwybodaeth am CGA
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol Cymru ar gyfer:
- athrawon ysgol*
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
- athrawon ysgolion annibynnol
- gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion annibynnol
- athrawon addysg bellach*
- gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
- penaethiaid neu uwch arweinwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach
- athrawon sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16
- gweithwyr cymorth dysgu mewn sefydliadau annibynnol arbennig ôl-16
- ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
- ymarferwyr addysg oedolion*
- gweithwyr ieuenctid*
- gweithwyr cymorth ieuenctid*
*mae gofyn cael cymwysterau penodol ar gyfer y categorïau cofrestru hyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r tudalennau cofrestru.
Sefydlwyd CGA gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, fel y’i diwygiwyd (y Ddeddf). O dan y Ddeddf, cafodd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ei ad-drefnu a’i ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Daeth CGA i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015.
Prif nodau CGA yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac eraill sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a gwarcheidwaid, a’r cyhoedd, a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Mae cyfrifoldebau CGA yn cynnwys:
- sefydlu a chynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg yr ystyrir eu bod yn addas i ymarfer yn y gweithlu addysg yng Nghymru
- darparu a chynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol i gofrestreion
- ymchwilio i honiadau a all godi amheuaeth am addasrwydd ymarferwr cofrestredig i ymarfer
- achredu a monitro rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru
- cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill
- monitro a gwrando ar apeliadau sefydlu
- hyrwyddo gyrfaoedd yn y gweithlu addysg
- ymgymryd â gwaith penodol wedi’i ariannu gan grant, ar wahoddiad Llywodraeth
Y Cod
Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) yn ddogfen allweddol. Mae’n datgan yn glir i gofrestreion CGA y prif safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da y mae disgwyl i bob un ohonynt eu cynnal er mwyn parhau i gofrestru. Hefyd, mae’n galluogi dysgwyr a phobl ifanc, a phawb sy’n ymwneud â’u haddysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn enwedig rhieni/gwarcheidwaid, i wybod beth y dylent ei ddisgwyl gan gofrestreion.
Mae gofyniad cyfreithiol ar CGA o dan y Ddeddf i gyhoeddi cod sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan unigolion sydd wedi cofrestru. Hefyd, mae’r Ddeddf yn gofyn bod CGA yn adolygu ac yn diwygio’r Cod o fewn tair blynedd o’i gyhoeddi, neu pryd bynnag y caiff categori cofrestru newydd ei ychwanegu. Adolygwyd fersiwn bresennol y Cod ddiwethaf ym mis Mai 2024 yn sgil cyflwyno categorïau newydd i’r Gofrestr Ymarferwyr Addysg.
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (y Rheoliadau) yn gofyn bod y Cod yn cynnwys darpariaeth ofynnol sy’n delio â’r materion canlynol:
- seilio perthnasoedd rhwng dysgwyr ac unigolion cofrestredig ar ymddiriedaeth a pharch y naill tuag at y llall;
- ystyried diogelwch a llesiant dysgwyr
- cydweithio â chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
- datblygu a chynnal perthnasoedd da â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr
- ymddwyn gyda gonestrwydd ac unplygrwydd
- bod yn sensitif i’r angen am gyfrinachedd, lle bo hynny’n briodol
- cymryd cyfrifoldeb am gynnal ansawdd ymarfer proffesiynol
- cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg
Mae’r Rheoliadau hefyd yn gofyn bod Pwyllgor Ymchwilio neu Briodoldeb i Ymarfer CGA yn ystyried unrhyw fethiant gan gofrestrai i gydymffurfio â’r Cod mewn unrhyw achosion disgyblu yn erbyn y cyfryw unigolyn.
Diwygiadau arfaethedig
Wrth ddrafftio’r Cod diwygiedig, mae CGA wedi:
-
cyfrif am 13 grŵp y gweithlu y mae’n ofynnol bellach i CGA eu cofrestru a’u rheoleiddio er mwyn sicrhau bod y Cod yn berthnasol i bawb, yn eu hadlewyrchu ac yn hygyrch iddynt
-
adolygu codau rheoleiddwyr eraill, ar draws y byd ac ar draws amrywiaeth o broffesiynau
- ystyried themâu sy’n dod i’r amlwg o waith achosion priodoldeb i ymarfer i lywio agweddau ar y Cod sydd angen eu cryfhau, efallai
Wrth ymgynghori ar y Cod diwygiedig, mae CGA yn croesawu safbwyntiau cofrestreion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Ni wnaed unrhyw benderfyniadau ar y diwygiadau arfaethedig ac rydym yn eich annog i fynegi eich barn.
Gallwch weld copi o’r Cod diwygiedig drafft, a chopi o’r Cod presennol, nawr.